Solfach

Teithiau Byr

Harbwr Solfach

PELLTER: 0.8 milltir (1.3 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Solfach 411, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Ymyl yr harbwr, rhannau serth, golygfeydd, peth cerdded ar yr heol. Dim sticlau. Grisiau.

Cymerwch y llwybr ym mhen pellaf y maes parcio ar hyd yr harbwr. Ar y cyffordd-T  trowch i’r dde i’r heol, yna i’r chwith i lwybr cerdded i fyny’r tyle.

Ar yr heol, trowch i’r chwith i fynd heibio’r tai ac ymlaen at lwybr troed ag arwyneb o’ch blaen. Anwybyddwch y grisiau i’r dde ac arhoswch ar y llwybr ag arwyneb.

Wrth y mynegbost, trowch i’r chwith i lawr y grisiau tuag at y harbwr, ac ar y gwaelod trowch i’r chwith yn ôl tuag at y maes parcio, gan ddilyn yr heol ac yna wal yr harbwr.

The Gribyn, Solva

Y Gribyn, Solfach

PELLTER: 0.8 milltir (1.3 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Solfach 411, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Llwybr pentir, golygfeydd. Dim sticlau. Adrannau serth.

O’r maes parcio croeswch y bont droed dros yr afon a throwch i’r chwith, yna i’r dde ac i fyny’r grisiau. Dilynwch y llwybr ac wrth y fforc cymerwch y llwybr ar yr ochr dde.

Ewch yn syth ymlaen, heibio i’r odynau calch cyntaf, yna i’r chwith i’r llwybr i fyny’r tyle. Parhewch i ddilyn y llwybr i fyny’r tyle, gan anwybyddu’r llwybr sy’n mynd i lawr.

Ar y copa *, trowch i’r chwith yn siarp i lwybr ar gopa’r grib. Dilynwch y grib, gan anwybyddu’r llwybrau sy’n mynd i lawr, ewch drwy giât a chymerwch y llwybr ar y chwith.

Cyn y troad nesaf i’r chwith, croeswch sticil a dilynwch y llwybr igam-ogam i lawr. Croeswch y bont yn ôl i’r maes parcio.

* Ar y copa mae’n bosib cerdded at frigiad caregog ar y pentir ac yna mynd yn ôl yr un ffordd.

 

Solfach Isaf

PELLTER: 1.1 milltir (1.7 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Solfach 411, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Graddiant serth, coetir, golygfeydd, peth cerdded ar yr heol. Dim sticlau. Adrannau serth.

Trowch i’r dde allan o’r maes parcio i’r brif ffordd, trowch i’r chwith cyn cyrraedd y bont i mewn i Prendergast, ac wrth y pwmp dŵr, trowch i’r chwith i’r llwybr troed cul.

Cyn hir, mae’n lledaenu eto ac yn mynd i fyny’r tyle ac o’i amgylch i’r chwith. Arhoswch ar y llwybr glaswelltog llydan, ac ewch yn syth ymlaen i’r dreif arwain i lawr at yr heol.

Croeswch yr heol a throwch i’r chwith i’r palmant. Ble mae’r palmant yn dod i ben, trowch i’r dde’n siarp i lawr yr heol.

Cadwch i’r chwith at Sand Quay Slip a throwch i’r chwith yn siarp eto yn ôl at y maes parcio.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SM801240

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau