Solfach Uchaf i Borth y Rhaw

Taith Fer

PELLTER/HYD: 1.3 milter (2.2 km) 45 munud bob ffordd
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Solfach T11. Mae gweithredwr Gwasanaeth 400 (Pâl Gwibio) a 404 wedi canslo’r gwasanaeth o Ebrill 5 2023. Yn y cyfamser, mae’r ardal a gwmpesir gan Wasanaeth 400 yn rhan o gynllun Bws Fflecsi Gogledd Sir Benfro (agor mewn ffenestr newydd). 
CYMERIAD: Dim sticlau, gradd hawdd i gymedrol, llwybr troed tarmac 100m,  isffordd 400m, lôn glaswelltog ac ymyl y clogwyn.

Parciwch yn y man tynnu-i-mewn yn Solfach Uchaf gyferbyn â’r eglwys. Croeswch yr heol, trowch i’r chwith heibio’r eglwys ac yna trowch i’r dde, gan gerdded heibio’r hen Swyddfa Bost.

Ewch ymlaen i fyny’r heol, sydd â graddiant bach, ac ewch i’r chwith tuag at St Brides View. Cymerwch y fforc ar y dde a pharhewch yn syth ymlaen heibio nifer o westai.

Pan ddaw’r tarmac i ben, parhewch ar hyd trac glaswelltog, sydd â graddiannau o 1:10 i fyny ac i lawr am 55m. Ar ddiwedd y llwybr hwn, mae yna giât sy’n arwain tuag at gae.

Cadwch at ymyl y cae a phasiwch trwy giât arall i Lwybr yr Arfordir. O’r olygfan, fe allwch weld Solfach Isaf a’r harbwr. Enw’r bae bach gyferbyn yw’r Gwadn ac mae yna olygfeydd hyfryd o’r clogwyni ar y man pellaf.

Parhewch ar hyd Llwybr yr Arfordir. Yn gyffredinol, mae’r rhan yma’n wastad heblaw am rhai llethrau bach neu ganolig sy’n 1:25 i fyny am 75m, 1:20 i fyny am 45m, a,disgyniad o 1:20 am 500m tuag at Porth y Rhaw,

Wrth i chi nesáu at Borth y Rhaw sylwch ar gaer fawr o’r Oes Haearn sydd wedi bod yn destun cloddiad archaeolegol helaeth gan ei fod yn dadfeilio’n raddol i’r môr.

Mae’r disgyniad i Borth y Rhaw yn serth iawn, 1:8, ac fe all fod yn llithrig iawn.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM791237

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau