Roch/Brandy Brook

Taith Fer

PELLTER/HYD: 3.4 milltir (5.4 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Roch 411
CYMERIAD: Cwm coediog, sticlau, caeau a da byw, graddiannau. Ddim yn addas ar gyfer cŵn
CHWILIWCH AM: Bwncathod • adar coetir • coedwig o glychau’r gog – plannu coetir newydd

‘Gwlad y bryniau’ yw’r tonnau o gefn gwlad tu ôl i Draeth Niwgwl. Mae enw pob copa fach yn cynnwys y gair ‘mynydd’, er nad oes unrhyw un yn fwy na 500 troedfedd (150m).

Mae’r llwybr hwn yn dilyn dyffryn Brandy Brook, sy’n llifo’n gyflym, ac yn ymylu ar ystlys Mynydd Rhyndaston – bryn sydd ond yn cyrraedd 410 troedfedd (125m).

Mae Castell Roch yn nod tir amlwg yn y dirwedd agored hon. Fe’i adeiladwyd ar frigiad o graig ac mae’r t ˆwr sengl yn dyddio o’r 13eg ganrif.

Fel arfer, ystyrir Brandy Brook yn farciwr ar y Landsger, y ffin dybiannol rhwng de Sir Benfro a reolir gan y Normaniaid a’r rhan a arhosodd o dan reolaeth y Cymry.

Roedd Castell Roch yn sefyll ar y ffin ddiwylliannol hon. Roedd yna gestyll ffiniol eraill yn Haycastle, yn agos at y llwybr hwn, ac ychydig ymhellach i’r dwyrain yng Nghas-blaidd.

Yn ôl chwedl leol, fe adeiladodd arglwydd Normanaidd o’r enw Adam De La Roche ei gastell ar ôl i fenyw ddoeth ddweud wrtho y byddai’n dioddef brathiad angheuol gan neidr.

Fe ddywedodd hi y byddai’n cael ei gnoi gan sarff yn ystod y flwyddyn ganlynol. I ddianc rhag ei ffawd, fe adeiladodd y t ˆwr a threuliodd flwyddyn yn yr ystafelloedd uchaf.

Ar ddiwrnod olaf ei flwyddyn, daethpwyd â phentwr o goed tân i’r ystafell. Neidr a oedd yn cuddio tu mewn i’r pentwr a laddodd yr uchelwr.

Mae yna ddigon o fywyd gwyllt yn yr ardal – er nad oes unrhyw beth mor fygythiol â sarff De La Roche. Yn y Gwanwyn, mae’r coetir ar hyd Brandy Brook yn llawn o glychau’r gog ac mae yna ddigon o adar i’w gweld.

Un aderyn i chwilio amdano yw’r bwncath, ac yn aml fe welwch chi’r aderyn hwn yn reidio thermalau ar adenydd llydan, disymud.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM878221

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi