Pwynt Dale

Taith Fer

PELLTER/HYD: 3.1 milltir (4.9 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Dale 315/316, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir, llethr clogwyn, llethrau serth yn y coed, caeau a da byw, 0.9 milltir (1.5 km) o gerdded ar isffyrdd.
CHWILIWCH AM: Caer Oes Haearn • olion odyn galch • bae coediog • caer Fictoraidd • golygfeydd i fyny dyfrffordd Aberdaugleddau.

I raddau helaeth, mae penrhyn Dale yn rhydd o goed ond mae’r llwybr hwn yn dilyn llethrau hir i lawr i’r môr sy’n anarferol am eu bod yn doreth o goed.

Y dyddiau hyn, mae Dale yn lleoliad poblogaidd ar gyfer hwylio a syrffio gwynt ond mae gan y pentref draddodiad morol hir.

Yn yr 16eg ganrif, dyma un o borthladdoedd pwysicaf Sir Benfro ac roedd ganddo enw fel cuddfan i smyglwyr, tra’u bod nhw’n dal i adeiladu llongau yn Dale yn y 1850au.

O Gaer Dale mae yna olygfeydd gwych ar hyd Dyfrffordd y Daugleddau. Adeiladwyd y gaer Fictoraidd tu mewn i anheddiad Oes Haearn llawer mwy o faint ac roedd yn rhan allweddol o amddiffynfeydd Aberdaugleddau yn y 19eg ganrif.

Erbyn hyn mae’n Ganolfan Astudiaethau Maes ar gyfer myfyrwyr bioleg forol. Pleser pur yw dringo i lawr i Fae Traeth y Castell (Castlebeach). Mae yna ymdeimlad gudd i’r cwm bach coediog ac yn aml mae’r traeth bach yn wag.

Chwiliwch am olion odyn galch, ble’r arferent losgi carreg galch i wneud calch at ddefnydd amaethyddol. Y tu hwnt i’r bae, mae’r llwybr yn dringo tuag at y man uchaf ar y llwybr, gyda golygfeydd gwych o’r Daugleddau ac ar draws Bae Watwick.

Gerllaw mae yna strwythur amddiffynnol arall, sef Blocws mawreddog y Gorllewin o Oes Fictoria. Erbyn hyn mae’n llety gwyliau, ond mae ei safle wedi’i guddio’n dda.

Ar ei hyd, saif tri thŵr mordwyo – mae’r rhain a’r un sengl ym Mhwynt Watwick yn arwain tanceri wrth iddyn nhw ddod i mewn i’r ddyfrffordd.

Mae’n werth crwydro oddi ar y llwybr at drydydd bae, Bae’r Felin (Mill Bay), sydd â chysylltiad brenhinol hanesyddol at frwydr Seisnig enwog.

Glaniodd Harri Tudur (Y Brenin Harri’r VII yn ddiweddarach) ym Mae’r Felin yn Awst 1485 gyda mintai o 2,000 o ddynion. Fe gymerodd rai wythnosau i fintai Tudur i gyrraedd Maes
Bosworth, ac fe gasglodd gefnogaeth wrth orymdeithio yn ei flaen.

Diolch i’r fuddugoliaeth yn Bosworth fe enillodd Harri deyrnas ac fe gafodd Lloegr frenin a anwyd ym Mhenfro.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM815046

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau