Porthstinan/Porthselau

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.1 milltir (3.4 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Celtic Coaster 403 o Dyddewi i Borthstinan (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, ymylau clogwyni, yn wlyb ac yn fwdlyd wrth symud yn fewndirol o Borthselau, 0.5 milltir (0.75 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Gorsaf bad achub Porthstinan • Golygfeydd tuag at Ynys Dewi, Carn Llidi a Porth Mawr • Adar môr a morloi • Llamhidyddion.

Ym mis Mai a Mehefin, pan fydd carped o flodau gwyllt ar gopa’r clogwyni, mae’r llwybr ym Mhwynt Sant Ioan yn gallu bod yn lle siriol i gerdded.

Ar bob adeg o’r flwyddyn, mae’r golygfeydd at Ynys Dewi, a’i frigiadau cyfagos, yr Esgobion a’r Clercod, yn wefreiddiol – ac mae yna gyfle hefyd i weld dolffiniaid a llamhidyddion.

Dyma ardal wych hefyd i weld morloi. Chiliwch am forloi bach llwyd newydd-anedig yn yr hydref; maen nhw’n wyn fel yr eira am hyd at dair wythnos o’u bywydau.

Byddwch yn dawel a cheisiwch gadw o dan linell y gorwel wrth i chi wylio, rhag ofn y byddwch yn dychryn yr un bach neu’r fam. Mae’n bwysig iawn nad ydych chi’n dychryn y fam i ffwrdd tra’i bod yn rhoi llaeth i’w rhai bach.

Ym Mhorth Selau mae’r creigiau gwaelodol ymhlith yr hynaf yn y rhan hon o’r sir. Ffurfiwyd y clymfaen basal Cambriaidd tua 570 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac mae’n gyfuniad lliwgar o gerrig mân a cherrig cobl. Ychydig i’r dwyrain o’r llwybr y mae Treleddyn Uchaf, fferm a fu unwaith yn gartref i arwres leol.

Aeth Margaret Williams a chwch rhwydo allan mewn storm ym 1793 i achub saith hwyliwr o’r creigiau tu hwnt i Ynys Dewi.

Am ganrifoedd, roedd yr arfordir o gwmpas Tyddewi yn brysurdeb o gychod mawr a bach yn mynd ac yn dod. Yn y mileniwm cyntaf ar ôl Crist, roedd Tyddewi wrth galon y byd Celtaidd ac roedd yr arfordir hwn yn fan pwysig i gyrraedd ac ymadael.

Yn ôl y traddodiad, aeth San Padrig ar genhadaeth i Iwerddon yn y 430au o Borth Mawr. Yn hwyrach, fe fyddai pererinion yn cyrraedd ym Mhorthstinan.

Uwchlaw gorsaf y bad achub, chwiliwch am Gapel Sant Stinan. Mae’r adfeilion yn dyddio o’r 16eg ganrif ond credir ei fod yn sefyll ar safle capel cynharach a sylfaenwyd gan Stinan.

I’r dwyrain o’r llwybr mae ardaloedd corsiog Pwll Trefeiddan, lloches ar gyfer gweision y neidr a mursennod. Y clegyr bach uwchlaw’r gors yw Clegyr Boia, a dywedir ei fod yn gadarnle i
wrthwynebydd Dewi, pennaeth Celtaidd o’r enw Boia.

Mae Porthstinan yn boblogaidd iawn a dyma’r man ymadael ar gyfer teithiau cwch. Mae llwybr gwasanaeth bws mini’r Celtic Coaster yn cynnwys Porthstinan – dyma’r ffordd mwyaf hwylus i gyrraedd y lle hyfryd hwn.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM724256

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau