Porthgain/Trefin

Taith Fer

PELLTER/HYD: 3.0 milltir (4.9 km) 1 awr 15 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Llanrhian 413, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, ymylon clogwyni, caeau a da byw, gall y trac fferm fod yn fwdlyd, 0.3 milltir (0.5 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Archeoleg ddiwydiannol • cychod pysgota a harbwr • hen olygfeydd morol • cylch cerrig • golygfeydd gwych o’r arfordir • adar y môr.

Mae’r arfordir caregog rhwng Trefin a Phorthgain yn lle da i wylio adar. Mae yna rywbeth i’w weld o hyd, ond os ydych chi’n ffodus iawn, efallai y gwelwch chi un o ‘sêr’ arfordir y gogledd, y frân goesgoch a’r hebog tramor.

Mae’r frân goesgoch yn brin ym Mhrydain ond, yn aml, gellir ei gweld yn chwilota am fwyd ymhlith y glaswelltau byr gwydn ar gopa clogwyni Sir Benfro, a gerllaw.

Mae’n aderyn hawdd ei adnabod; du fel y fran ond gyda phig hir a choesau pinc llachar. Mae’r hebog tramor yn hoffi nythu ar glogwyni’r môr ble mae wastad digon o adar llai i gudd-ymosod arnynt.

Mae’r hebog tramor yn aderyn chwim ei adenydd ac mae ei adenydd yn rhai cul, sy’n mynd am yn ôl ac mae yna blu llwyd ar yr adenydd a’r cefn.

Lle dymunol iawn yw pentref bach prydferth Porthgain heddiw, ond, ar un adeg, roedd yn brysurdeb o ddiwydiant. Tan y 1930au roedd y cildraeth yn harbwr prysur ac roedden nhw’n cludo cerrig oddi yna ar y llongau ar gyfer adeiladu tai a heolydd.

Chiliwch am yr olion anferth ar un ochr o’r gilfach; mae’r rhain yn gyfres o wagenni bric coch a arferai ddal gwenithfaen wedi’i falu. Llwythwyd y cychod trwy lithrennau a gyrhaeddai ochrau’r harbwr.

Roedden nhw’n chwarelu’r garreg, a oedd yn graig igneaidd galed o’r enw diorit, o’r clogwyni rhwng Abereiddi a Phorthgain ac fe’i cludwyd draw i Borthgain ar y tram.

I ychwanegu at yr holl weithgarwch, roedd yna waith briciau ym Mhorthgain. Ond, fe ddirywiodd y gweithgarwch chwarelu yn sydyn yn y 1920au ac fe ddaeth i ben yn 1931.

Mae’r llwybr hefyd yn ymylu â phentref mawr Trefin. Er bod Trefin yn ôl oddi wrth y môr, mae yna gysylltiadau agos iawn gyda’r môr.

Roedd llawer o ddynion Trefin yn forwyr a deithiai’r byd, ac roedd gan y pentref enw fel canolfan smyglo ar un adeg hefyd.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM822323

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau