Gorllewin a Dwyrain Porth Clais

Teithiau Byr

GORLLEWIN PORTH CLAIS

PELLTER:  1.1 milltir (1.8 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Tyddewi 411, *Pâl Gwibio 400, *Celtic Coaster 403 (*tymhorol, galw a teithio)
CYMERIAD: Cerdded ar ben clogwyn caeau ag anifeiliaid. Dim sticlau.

O’r arosfan bysys, cerddwch tuag at faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond yna trowch i’r chwith arno i drac llydan cyn ei gyrraedd.

O’r maes parcio, trowch i’r chwith, yna i’r dde ar unwaith i fyny trac llydan. Pan fydd y trac yn cyrraedd y fferm, trowch i’r chwith a chymerwch y llwybr caeedig.

Dilynwch y llwybr o amgylch i’r chwith, trwy’r giât, a dilynwch y llwybr yn syth ymlaen i ddechrau, yna cadwch i’r chwith, gan ddychwelyd at y ffens yn raddol.

Dilynwch y llwybr o amgylch y pentir yn ôl i’r arosfan bysys a’r maes parcio.

DWYRAIN PORTH CLAIS

PELLTER: 2.4 milltir (3.8 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Tyddewi 411, *Pâl Gwibio 400, *Celtic Coaster 403 (*tymhorol, galw a teithio)
CYMERIAD: Cerdded ar ben clogwyn, caeau ag anifeiliaid. 2 sticil. Grisiau.

O’r arosfan bysys, croeswch y bont a chymerwch y llwybr i fyny’r tyle yn syth ymlaen. O’r maes parcio, trowch i’r chwith ac i’r chwith eto, croeswch y bont a chymerwch y llwybr i fyny’r tyle yn syth o’ch blaen.

Dilynwch y grisiau i fyny ac wrth y groesfan ewch yn syth ymlaen. Ar y maes gwersylla, dilynwch y llwybr ar ymyl y cae, gan gadw’r clawdd ar y chwith.

Ar yr heol darmac, dilynwch yr arwyddion i’r chwith ac yna i’r dde ar unwaith, yna dilynwch y llwybr caeedig.

Wedi cyrraedd y lôn darmac, trowch i’r dde ac, ychydig cyn y grid gwartheg, trowch i’r dde arno i’r llwybr troed.

Croeswch sticil garreg wrth fynegbost a chroeswch y cae, gan gadw’r wal sydd wedi dymchwel ar y dde. Ewch yn syth ymlaen trwy fwlch yn y clawdd, gan gadw at ymyl y cae, a chadw’r clawdd ar y dde.

Croeswch sticil garreg, trowch i’r dde arno i Lwybr yr Arfordir, a’i ddilyn yn ôl i Borth Clais, gan ddilyn arwyddion a marcwyr llwybr.

Pan fyddwch chi’n dod o amgylch y gornel yn harbwr Porth Clais, peidiwch â mynd i lawr, arhoswch ar y llwybr.

Yna, ar y postyn marcio ffordd, dilynwch y saeth felen i lawr y tyle. Croeswch y bont a dychwelwch at y man cychwyn.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SM739237

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau