Pill Llangwm/Pwynt Blacktar

Teithiau Byr

Pwynt Blacktar

PELLTER: 1.4 milltir (2.2 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Llangwm 308/309
CYMERIAD: Cerdded hwylus, gall fod yn fwdlyd mewn mannau. 1 sticil a grisiau.

O’r arosfan bysys/maes parcio, dilynwch yr arwydd ar gyfer y Ganolfan Gymunedol i fyny Pill Parks Way. Parhewch yn syth ymlaen wrth y cae rygbi, gan ddilyn yr arwydd llwybr troed, gan aros ar ochr chwith y cae.

Wrth fynd i mewn i’r ail gae, cerddwch ar ongl fach tua’r dde, gan anelu am y sticil i’r dde o’r postyn trydan. Croeswch y sticil, ewch i lawr y grisiau, croeswch y bont a throwch i’r dde, gan gymryd y llwybr ar hyd y blaendraeth.

Wedi cyrraedd tai, cymerwch y llwybr ceffylau i’r chwith. Dilynwch y lôn, sy’n troi i mewn i heol. Ar waelod yr heol, ewch yn ôl dros y ffordd yr ydych wedi bod arni’n gynharach ac ar draws y caeau yn ôl i’r arosfan bysys /maes parcio.

Llangwm, Daugleddau Estuary

Pill Llangwm

PELLTER: 1.7 milltir (2.8 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Llangwm 308/309
CYMERIAD: Blaendraeth, caeau a da byw, cerdded ar isffyrdd. 3 sticil.

O’r arosfan bysys/maes parcio dilynwch yr heol i lawr ac i fyny’r bryn allan o’r pentref. Ar ôl gadael y pentref, chwiliwch am sticil wedi’i gosod yn ôl yn y clawdd, ar y chwith yn nhro cyntaf yr heol.

Croeswch y cae gan anelu am y sticil yn syth o’ch blaen yn y clawdd gyferbyn, croeswch a dilynwch y llwybr wrth ymyl y cae yn syth o’ch blaen. Croeswch y sticil arno i’r lôn darmac, trowch i’r chwith a’i dilyn i lawr i’r afon.

Wrth yr afon, trowch i’r chwith, arhoswch wrth ymyl yr afon (PEIDIWCH â dilyn y llwybr troed sydd wedi’i farcio i fyny’r bryn) a dilynwch y llwybr o amgylch.

Anwybyddwch y grisiau sy’n mynd i fyny o’r blaendraeth, a throwch i’r chwith arno i’r stryd wrth y postyn lamp, yna i’r dde arno i’r heol ac, yn olaf, i’r dde arno i’r brif heol sy’n arwain yn ôl at yr arosfan bysys/maes parcio.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SM997092

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi