Penberi/Treleddyd

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 4.0 milltir (6.5 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, ymyl clogwyni, caeau a da byw
CHWILIWCH AM: Olygfeydd o Benberi • fferm estynedig pentrefan Cymreig Treleddyd Fawr
NODWCH: Dim parcio ceir. Mynediad i’r daith gerdded ar fws yn unig.

Ydych chi am weld ehangder cyfan arfordir gorllewin Sir Benfro? Wel, rhowch dro ar y daith hon i weld golygfeydd godidog…

O frig Carn Penberi  gallwch weld gorllewin Sir Benfro yn ei chyfanrwydd o’ch blaen, o Benrhyn Tyddewi i Ynys Dewi ac ar draws ehangder Bae St Brides i Sgomer.

Penberi yw’r cyntaf mewn cyfres o fryniau cribog wedi’u gwneud o graig igneaidd galed ar hyd arfordir gogledd penrhyn Tyddewi. (Y lleill yw Carn Treliwyd, Carn Perfedd, Carnedd Lleithr a Charn Llidi.)

Pan oedd lefel y môr lawer yn uwch bron 70 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ynysoedd oedden nhw.

Mae’r môr wedi erydu’r creigiau mwy meddal o’u cwmpas i greu’r llwyfandir a dorrwyd gan y tonnau sydd bellach yn llunio’r rhan fwyaf o Sir Benfro.

Gwybodaeth gan y BBC

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM765295

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau