Pen Caer/Pwll Deri

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 6.8 milltir (11.0 km) 3 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Tir arfordirol garw, ymylon clogwyni, caeau a da byw, bryniau
CHWILIWCH AM: Goleudy Pen-caer • golygfeydd o Garn Fawr • Bryngaer Garn Fechan.

Diolch i’r pentiroedd dramatig, y golygfeydd gwych a thoreth o fywyd gwyllt, dyma daith i’w chofio…

Ffurfiwyd y pentir o graig galed, igneaidd ac mae’n ddarn gwyllt o dir gyda chlogwyni serth hyd at 140m o uchder mewn mannau, felly fe allwch ddisgwyl golygfeydd gwych – maen nhw’n dweud eich bod chi’n gallu gweld Iwerddon ar ddiwrnod clir.

Chwiliwch am heidiau o lamhidyddion a dolffiniaid trwynbwl yn y bae – maen nhw wedi gweld pysgod yr haul a’r heulforgi yma hefyd nawr ag yn y man. Mae’r traeth, gyda’i gildraethau caregog a’i ogofau, yn lloches i forloi llwyd.

Mae yna amrywiaeth o gynefinoedd o amgylch y pentir, fel gweundir morol, gyda rhedyn, grug a glaswellt garw, ac mae yna degeirianau porffor cynnar a briallu Mair mewn ardaloedd corsiog ar gopa’r clogwyni.

Mae’r clogwyni hefyd yn cefnogi cennau morol, clychau’r gog ac eithin ble mae yna gysgod rhag y gwynt. Diolch i’r cyfoeth o flodau mae yna lawer o bili-palaod fel iâr fach y graig a’r pili-pala bach glas yma hefyd.

Mae merlod Mynydd Cymreig yn pori’r gweundir – dull traddodiadol o reoli tir a ailgyflwynwyd mewn prosiect partneriaeth rhwng Awdurdod y Parc a ffermwyr.

Chwiliwch am y goleudy ar Ynys Michael a gwyliwch adar y môr o’r gwylfan o’r Ail Ryfel Byd. Mae’r clogwyni’n gartref i wylanod, cigfrain, y frân goesgoch a’r hebog tramor.

Tua’r tir, ar Garn Fawr mae olion un o’r caerau carreg gorau o’r Oes Haearn ym Mhrydain ac mae yna olygfeydd da o’r arfordir yn y man gwylio naturiol hwn.

Gwybodaeth gan y BBC

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfiernod Grid: SM895415

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau