Pen Caer/Pen Strwmbl

Taith Fer

PELLTER/HYD: 1.7 milltir (2.8 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Golygfeydd gwych o’r môr, da byw, gall fod yn fwdlyd mewn mannau, 925 metr o gerdded ar heolydd bach.

Cerddwch yn ôl i lawr yr heol ac ar ôl cyrraedd Fferm Tresinwen, trowch i’r chwith i ddreif tarmac. Wrth y mynegbost rhwng adeiladau’r fferm trowch i’r dde i lwybr ceffylau a thrwy’r giatiau i’r trac caeedig.

Wrth y fforc trowch i’r chwith, ewch trwy giât a dilynwch y llwybr. Wrth y giât mochyn trowch i’r chwith i Lwybr yr Arfordir a’i ddilyn rownd, gan gadw at y prif lwybr, a dilyn unrhyw farcwyr llwybr.

Pan fydd y goleudy i’w weld, dilynwch y saeth felen ar y postyn marcio llwybr.  Ar ddiwedd y llwybr, trowch i’r dde i’r heol yn ôl at yr arhosfan bysiau a’r maes parcio.

 

Dewch o hyd i'r daith hon

Grid ref: SM905408

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau