Parrog Trefdraeth/Aberrhigian

Taith Fer

PELLTER/HYD: 3.2 milltir (5.1 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Trefdraeth T5 (yn hygyrch i gadeiriau olwyn), Poppit Rocket (tymhorol, ddim yn hygyrch i gadeiriau olwyn).
CYMERIAD: Ymyl clogwyn, cwm coediog, 400 m ar ymyl priffordd
CHWILIWCH AM: Cildraeth Aberrhigian • golygfeydd • chwarelau clogwyni’r môr sydd ddim yn cael eu defnyddio.

Dewch i weld un o drefi masnachu hanesyddol pwysicaf y rhanbarth, a mwynhewch un o’i thraethau poblogaidd.

Mae gan Drefdraeth ei hun Gastell Normanaidd, ambell i dŷ diddorol o’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a dau draeth – Traeth Trefdraeth a Pharrog Trefdraeth – wedi eu gwahanu gan yr afon Nyfer.

Mae Traeth Trefdraeth yn draeth sy’n enwog ym myd syrffio gwynt, ond mae’r Parrog, er ei fod yn fwy cysgodol na Thraeth Trefdraeth, yn draeth mwy mwdlyd gyda rhai ceryntau peryglus.

O’r unfed ganrif ar bymtheg i’r ugeinfed ganrif gynnar roedd Trefdraeth yn ganolfan bwysig ar gyfer masnachu ac adeiladu cychod  ac, ar un adeg, roedd gan y Parrog sawl warws (un wedi goroesi fel y Clwb Cychod).

Mae yna bysgota gwych ar gyfer draenogiaid a brithyll môr yn nyfroedd yr aber. Mae Aberrhigian yn gildraeth gysgodol ar ben Cwm Rhigian, cwm afon goediog – felly chwiliwch am adar coetir.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN043398

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau