Pantmaenog

Taith Hanner Dydd +

PELLTER: 8.0 milltir (12.8 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Rosebush 344/345
CYMERIAD: Traciau a llwybrau ceffylau mewn planhigfa coedwigaeth
CHWILIWCH AM: Golygfeydd panoramig o Sir Benfro • cudyll coch, boncathod, barcutiaid coch
RHYBUDD: Gall y tywydd newid yn gyflym gan fod y llwybrau yn cyrraedd uchder o 1,400 troedfedd. Paratowch yn bwrpasol.

Ceir arwyddion ar y gylchffordd i dywys marchogwyr a beicwyr mewn cyfeiriadau cyferbyniol fel bod beicwyr yn gallu arafu a gadael lle i geffylau lle bo’n bosibl. Os ydych yn nesáu at farchogwr o’r tu cefn, dylai beiciwr gyhoeddi ei bresenoldeb a gofyn i’r marchogwr a yw’n ddiogel i fynd heibio.

Mae croeso i chi gerdded, marchogaeth a beicio ar hyd y llwybrau sydd ag arwyddion yn y goedwig hon. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r tirfeddianwr wedi cytuno i ddarparu mynediad cyhoeddus i 12km o lwybrau trwy’r goedwig.

Coedwig fasnachol breifat yw Pantmaenog a reolir yn bennaf i gynhyrchu pren.

I wir fwynhau eich ymweliad a helpu i ddiogelu cefn gwlad, darllenwch y cyngor a’r rhagofalon canlynol:

  • Dim Mynediad i gerbydau modur, beiciau modur na beiciau modur pedair olwyn. Mae’n drosedd i yrru cerbydau a yrrir yn fecanyddol ar dir preifat heb awdurdod cyfreithlon.
  • Dim tanau. Dim gwersylla.
  • Diogelwch y planhigion a’r anifeiliaid a chymrwch eich sbwriel adref.
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn neu ar dennyn yn ddelfrydol.
  • Rhybudd: gall y tywydd newid yn gyflym gan fod y llwybrau yn cyrraedd uchder o 1,400 troedfedd uwch lefel y môr. Paratowch yn bwrpasol.

Gellir cyfyngu neu gau’r coedwigaeth dros dro.

Am wybodaeth bellach, mae croeso i chi gysylltu ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar 01646 624800.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN075295

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi