North Pole

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 5.0 milltir (8.0 km) 2 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Graddfa gymedrol, gall fod yn wlyb ac yn fwdlyd, caeau a da byw, 3.5 milltir (5.75 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Golygfeydd gwych tua’r tir • hen bentrefannau Pontiago a Llanwnda • tŵr awyrennau sifil • carreg sefyll o’r Oes Efydd • Siambr gladdu Neolithig.

Mae’r golygfeydd gwych o Ben Caer tua’r tir yn sicr yn werth eu harchwilio ac mae yna olygfeydd godidog hefyd o’r môr. Dyma dirwedd a grëwyd gan ddigwyddiadau daearegol dramatig
iawn rhwng 500 a 440 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Bryd hynny, roedd llosgfynyddoedd yn weithgar yn llawer o’r hyn sydd bellach yn Sir Benfro, ac yn poeri llifoedd lafa a oerodd i ffurfio creigiau igneaidd caled iawn.

Mewn rhai mannau ni chyrhaeddodd ymchwydd folcanig y graig dawdd yr arwyneb, gan oeri’n araf o dan y tir yn lle. Dros filiynau o flynyddoedd mae’r mewnwthiadau igneaidd hyn wedi
gwrthsefyll erydiad lawer yn well na haenau cyfagos i ddod yn garneddau caregog fel Garn Fawr, Y Garn a Garnwnda.

Daw enw’r daith o eiddo o’r enw North Pole, y mae’r llwybr yn ei basio. Yn ôl traddodiad lleol, fe gafodd y pren a ddefnyddiwyd i adeiladu’r tŷ ei achub o gwch o’r un enw a ddaeth i’w derfyn ar Ben-caer.

Chwiliwch am fythynnod traddodiadol Sir Benfro gyda waliau wedi eu  distempro â lliw ac weithiau to llyfn wedi’i orchuddio gyda sment. Defnyddiwyd gwellt ar gyfer y to am ganrifoedd yng nghefn gwlad Cymru ond rhoddwyd to newydd o lechi ar y rhan fwyaf o fythynnod yn y 19eg ganrif.

Mae’r eglwys fechan sydd wedi’i chysegru i Sant Gwyndaf yn Llanwnda yn enghraifft berffaith o’r cynllun Celtaidd sy’n nodweddiadol o ogledd y sir. Mae’n adeilad diymhongar, sy’n eithaf gwahanol i eglwysi tŵr pwerus pentrefi yn ne Normanaidd y sir.

Pen Caer a ddioddefodd y gwaethaf yn nwylo ysbeilgar y byddinoedd Ffrengig a ymosododd ar Sir Benfro ym 1797. Glaniodd y grym anffortunus ym Mhwynt Carreg Wastad, ychydig i’r gogledd o Lanwnda.

Unwaith y cyrhaeddon nhw’r lan, mae’n debyg fod y grym o 1,500 o ddynion wedi canolbwyntio ar feddwi yn bennaf. Roedden nhw’n ddigon ffodus i ddod ar draws stoc o ddiod feddwol yn barod ar gyfer priodas yn Fferm Trehowel.

Mae’n debyg mae eu hymdrech filwrol fwyaf oedd ymosod ar eglwys Llanwnda a dwyn plât arian. Yn fuan wedi hyn, ildiodd y grym yng Ngwdig.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM922389

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi