Niwgwl/Penycwm

Teithiau Byr

Niwgwl

PELLTER: NIWGWL – 1.8 milltir (2.9 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Niwgwl 411, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a teithio)
CYMERIAD: Ymyl clogwyn, cwm coediog, graddiannau, ychydig bach o gerdded ar yr heol. Dim sticlau. Giatiau mochyn, grisiau ac arwynebau anwastad.
MWY O WYBODAETH: Mae’r daith hon yn bosib pan fydd y llanw’n isel yn unig. MYNEDIAD I DRAETH PENYCWM TRWY’R CLOGFEINI AMDDIFFYN YR ARFORDIR.

O faes parcio Niwgwl: cerddwch i fyny’r palmant at Niwgwl, a pharhewch i fyny’r tyle ar yr heol. O’r arosfan bysys: cerddwch ar y palmant ac yna ar yr heol i fyny’r tyle tuag at Tyddewi.

Chwiliwch am yr arwydd llwybr troed yn y tro yn yr heol a throwch i’r chwith, drws nesaf i’r garej, trwy’r giât mochyn a dilynwch Llwybr yr Arfordir i fyny, yna i lawr.

Ewch yn syth ymlaen wrth y mynegbost, trwy’r giât mochyn nesaf, a dros y bont droed. Trowch i’r chwith tuag at y traeth ac ar y traeth i’r chwith eto tuag at Niwgwl.

Am y maes parcio: parhewch ar hyd y traeth nes y gallwch ch weld baneri’r maes parcio. Am yr arosfan bysys: chiliwch am y bwi achub bywyd ar ben y crib graean, a dringwch y crib yn fuan wedi hynny.

Chiliwch am rodfa a grisiau i lawr i’r heol, croeswch at y palmant a’r arosfan bysys.

Penycwm

PELLTER: 1.7 milltir (2.7 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Niwgwl 411, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a teithio)
CYMERIAD: Cwm Coediog, golygfeydd o’r môr, ychydig bach o gerdded ar yr heol. 3 gât fochyn kissing, grisiau.
MWY O WYBODAETH: Mae’r daith hon yn bosib pan fydd y llanw’n isel yn unig. MYNEDIAD I DRAETH PENYCWM TRWY’R CLOGFEINI AMDDIFFYN YR ARFORDIR.

Ewch ar y llwybr sydd wrth yr arosfan fysiau i lawr at yr arfordir, a throwch i’r dde wrth y gât i’r tyddyn. Wrth yr arwyddbost, ewch i’r dde , drwy’r gât fochyn, a thros y bompren.

Trowch i’r dde at y traeth, ac unwaith y byddwch ar y traeth, trowch i’r chwith eto yn ôl at Niwgwl. Ger Niwgwl, chwiliwch am y bwi achub ar y cribyn graean, a dringwch y banc cyfagos i gyrraedd yr estyll a’r grisiau sy’n arwain i lawr at yr heol.

Croeswch y ffordd at y palmant a throwch i’r chwith. Unwaith y byddwch yn dringo’r rhiw, chwiliwch am yr arwydd llwybr cerdded ar y tro yn yr heol, ac yna trowch i’r chwith i’r garej.

Ewch drwy’r gât fochyn, a dilyn y llwybr arfordir i fyny i ddechrau, ac yna i lawr. Ewch i’r dde wrth yr arwyddbost, ac yna trowch i’r chwith wrth y gyffordd T, a dilynwch y llwybr yn ôl i Benycwm.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SM846224

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau