Mynydd Preseli

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 5.6 milltir (9.0 km) 3 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Mynachlog-ddu 345
CYMERIAD: Rhostir garw a llaid, da byw, amrediad graddiant 200-360m, 2.6 km o gerdded ar isffordd
CHWILIWCH AM: Carn Menyn sy’n ffynhonnell ar gyfer y dolerit smotiog / carreg las • Siambr Gladdu Bedd Arthur • Cofgolofn Waldo
MWY O WYBODAETH: Nid yw’r llwybr wedi’i farcio ar y bryn agored.

Mwynhewch olygfeydd Mynyddoedd enwog y Preseli.

Mae Mynyddoedd y Preseli wedi eu ffurfio o siâl Ordoficaidd caled a charreg llaid wedi’u cywasgu i mewn i lechi gyda darnau gwasgarog o ryolit a dolerit – y garreg las enwog sy’n ffurfio cylch fewnol Côr y Cewri (Stonehenge).

Dyma’r bryniau uchaf yn Sir Benfro. Clogwyn Carn Menyn yw fynhonnell pileri Côr y Cewri, a Bedd Arthur gerllaw yw cylch cerrig y Preselau eu hunain sydd mewn siâp llygad anarferol.

Mae yna gofgolofn i’r bardd Cymraeg Waldo Williams ym Mynachlogddu. Os ydych chi’n ddigon ffodus i gael tywydd clir,  byddwch yn gallu gweld Penrhyn Llŷn i’r gogledd a bryniau Wicklow yn Iwerddon  i’r gorllewin.

Byddwch yn wyliadwrus ar y mynyddoedd – mae’r adar, yn enwedig ym misoedd y gaeaf, yn gallu bod yn anhygoel gyda chymylau byw o ddrudwy’n ymgasglu yma i glwydo.

Chwiliwch hefyd am fwncathod sy’n hela a chudyllod glas. Yn y gwanwyn mae mwyeilch y mynydd a bras yr eira yn fudwyr cyffredin.

Mae llawer o’r ucheldir yn gorsiog ac, o ganlyniad yn asidig iawn, felly fe welwch chi blanhigion prin sy’n gallu dioddef yr asid fel y ffynidfwsogl, llysiau’r afu, rhedyn a thegeirianau gyda phryfed fel pili-pala’r gors a mursen y de.

Mae’r grug yn garped i’r gweundir mwy sych, ac yn hwyr yn yr haf chwiliwch am fwncathod, cudyllod coch, y gylfinir, cigfrain ac ehedyddion.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN105325

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi