Maenorbŷr/Bae Swanlake

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.5 milltir (4.1 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Maenorbŷr 349, Gorsaf drenau 1 milltir i’r gogledd (SS069994)
CYMERIAD: Arfordir garw, graddiannau, caeau a da byw
CHWILIWCH AM: Traethau • golygfeydd gwych o’r arfordir

Fwy na thebyg fod pob un yn teimlo rhywfaint o hiraeth a rhamant am eu plentyndod, ond pan ddisgrifiodd yr awdur o’r 12fed ganrif, Gerallt Gymro, Maenorbŷr fel y “man mwyaf dymunol yng Nghymru” efallai nad oedd yn bell iawn ohoni.

Roedd Gerallt yn fab i dywysoges Gymraeg ac roedd ei dad yn un o’r Normaniaid. Roedd ei dad a’i deulu, y de Barris, yn byw yng Nghastell Maenorbŷr am ganrifoedd.

Mae’r faenor, gyda’i chastell, pentref ac eglwys brydferth, yn enghraifft berffaith o’r byd Eingl-Normanaidd a greoedd goresgynwyr fel tad-cu Gerallt, Odo de Barri, yn ne Sir Benfro.

Mae’r castell wedi goroesi peryglon y canrifoedd yn well na llawer yng Nghymru. Pan yr oedd John Leland yn cynnal arolwg o’r deyrnas i Harri’r VIII yn y 1540au, fe gafodd Maenorbŷr gryn effaith arno, ac roedd yn “esiampl berffaith o hen gartref barwn Normanaidd”.

Mae’n dal i fod yn un o’r cestyll mwyaf cyflawn yn Sir Benfro. Mae’r llwybr yn rhedeg yn agos at y castell ac at draeth Maenorbŷr, sy’n berffaith os ydych am chwilota yn y pyllau glan môr.

Darganfuwyd olion anheddiad dynol yn yr ardal o amgylch Maenorbŷr. Roedd pobl Oes y Cerrig yn byw mor syml mai ychydig iawn o olion o’u presenoldeb sydd ar ôl, ond mae archeolegwyr yn dod o hyd i olion y gwastraff a adawyd wrth iddyn nhw weithio’u fflintiau i gael ymyl miniog.

Un o’r lleoliadau yn Sir Benfro ble daethpwyd o hyd i ddarnau bach o’r fflintiau yw Bae Swanlake. Wrth anelu am y bae, edrychwch yn ôl i’r pentir gyferbyn, Trwyn yr Offeiriad (Priest’s Nose).

Dyma gliw arall i orffennol hynafol yr ardal, siambr gladdu Neolithig drawiadol Coetan y Brenin. Ar un adeg, roedd cerrig anferth y siambr wedi eu claddu o dan bentwr o bridd a chreigiau.

Heddiw, maen nhw’n agored ac yn nodwedd drawiadol iawn ar y tir.

Mae Tim Jones, cyn-Barcmon Sector y De gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dweud: “Rwy’n arbennig o hoff o’r arfordir yma. Hyd yn oed ar ddiwrnod pan fydd y traeth ym Maenorbŷr yn brysur, fe allwch chi gerdded draw i Fae Swanlake ac efallai mai dim ond y chi fydd ar y traeth.”

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SS056977

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau