Lochvane

Taith Fer

PELLTER/HYD: 3.2 milltir (5.2 km) 1 awr 45 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth ar yr A487 411, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Ymyl y clogwyni, arfordir garw, caeau a da byw
CHWILIWCH AM: Mwnt Normanaidd yng Nghastell Pointz • Traeth Porthmynawyd.

Clogwyni trawiadol, cildraethau anghysbell ac olion Normanaidd…

Mae’r clogwyni’n drawiadol ar y darn hwn o arfordir (250 troedfedd) gyda golygfeydd gwych yn ôl i Ynys Dewi.

Mae penrhyn Dinas Fawr (gyda Dinas Fach tu hwnt) yn beryglus – peidiwch â chael eich temtio i ddilyn y llwybr troed allan i’r pwynt.

Efallai y gwelwch chi ambell aderyn y môr yma ac acw – gwylanod, weithiau gwylanod y graig a mulfrain, gydag ambell jac-y-do a chudyll coch.

Mae Porthmynawyd yn gildraeth diarffordd gyda thraeth bach poblogaidd y gellir mynd ato pan fydd y llanw allan.

Gellir gweld olion mwnt Normanaidd yng Nghastell Pointz.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM825235

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau