Gelli Fawr

Taith Fer

PELLTER/HYD: 3.2 milltir (5.1 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Dim
CYMERIAD: Llethrau coediog, rhostir, da byw, gall fod yn wlyb ac yn fwdlyd, 0.6 milltir (0.9 km) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Rhaeadr • llethrau a dyffrynnoedd coediog • golygfeydd da • adar ysglyfaethus

Eistedda Gelli Fawr rhwng dau o Fynyddoedd y Preseli. I’r gogledd y mae Carningli, brigiad bugeiliol uwchlaw tref arfordirol Trefdraeth. I’r de mae Foel Eryr, copa 468m (1,535 troedfedd) gyda charnedd gladdu o’r Oes Efydd ar y brig.

Mae’r llwybr yn ymdroelli rhwng ucheldir agored y Preselau a thirwedd goediog gysgodol cwm yr Afon Gwaun. Mae yma naws rhyfeddol – yn ôl un stori cyfarfu un gŵr lleol a’i farwolaeth ger Llanerch pan welodd ddieithryn tal, tywyll, Angau ei hun.

Cwyd yr Afon Gwaun yn y Preselau ac mae’n llifo trwy Gwm prydferth, coediog Gwaun i’r môr yn Abergwaun. Mae’r cwm yn grair o Oes yr Iâ, a ffurfiwyd gan lifogydd o ddŵr tawdd a lifai wrth i’r rhewlifoedd gilio.

Roedd Sir Benfro ar ymyl haenen anferth o iâ a lanwodd Môr Iwerddon ac mae proffil siâp ‘v’ y Gwaun yn awgrymu iddo gael ei dorri gan ddŵr a oedd yn llifo o dan yr iâ.

Chwiliwch am olion hen felin wrth ymyl y llwybr yn Pandy. ‘Pandy’ go iawn oedd yr adeilad hwn ble ac roedd y morthwylion a bwerwyd gan ddŵr yn cael eu defnyddio i drin gwlân cyn ei droi’n frethyn.

Weithiau, caiff y cwm ei ddisgrifio fel y cwm ‘dirgel’, ac yn wir, mae yna synnwyr o ddirgelwch yma. Efallai bod y rhyfeddod gymaint yn fwy am i gymuned y dyffryn wrthod derbyn camau i foderneiddio’r calendr yn y 18fed ganrif – maen nhw’n dal i ddathlu Hen Galan ar Ionawr 13eg.

Mae Carol Owen, Parcmon Sector y Gogledd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dweud: “Os ydych chi’n ffodus iawn, efallai y gwelwch chi farcut coch wrth i chi gerdded y rhan hon o Gwm Gwaun. Gwelir yr adar yn rheolaidd yn Sir Benfro nawr.”

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN057354

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi