Garn Fawr

Teithiau Byr

Copa Garn Fawr

Pellter: 0.4 milltir (0.7 km) yno ac yn ôl
Cludiant cyhoeddus: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a teithio)
Cyfeirnod map: SM897388
Cymeriad: Llwybr garw i safbwynt ar ben mynydd. Dim sticlau na giatiau mochyn, arwyneb anwastad yn agos at y copa.

Cymerwch y llwybr drws nesaf i’r maes parcio a dilynwch y llwybr sydd wedi’i ddiffinio’n glir i’r copa ac yn ôl.

Mae Garn Fawr yn dir mynediad, ac felly os nad oes unrhyw hysbysiadau o gyfyngiadau yn y maes parcio, fe allwch grwydro fel y mynnwch.

Memorial to poet Dewi Emrys at Pwll Deri

Cwmpas Byr Garn Fawr

Pellter: 1.2 milltir (1.9 km)
Cyfeirnod map: SM897388
Cludiant cyhoeddus: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a teithio)
Cymeriad: Caeau ag anifeiliaid, graddiant, golygfeydd. 5 sticil. Arwynebau anwastad.

Trowch i’r chwith allan o’r maes parcio a dilynwch yr heol i lawr.

Trowch i’r chwith arno i’r trac yn Tany-Mynydd, dilynwch y trac, anwybyddwch y trac cyntaf ar y chwith a throwch i’r chwith ar yr ail drac (mae yna fynegbost, y gellir ei weld unwaith y byddwch chi ar y trac).

Dilynwch y llwybr, sy’n gaeedig i ddechrau, yna’n agor allan, ond sydd wedi ei ddiffinio’n dda drwy’r amser. Ychydig bach cyn cyrraedd y fferm, trowch i’r chwith ar draws sticil, gan anelu at bostyn marcio llwybr o’ch blaen.

Wrth y postyn marcio llwybr trowch i’r dde a dilynwch y llwybr glaswelltog cul i fyny’r tyle. Croeswch y sticil, ac ewch yn syth ymlaen at sticil yn y gornel gyferbyn, gan ei chroesi ac yna parhau yn syth ymlaen ar hyd y llwybr, gyda’r wal i’r dde.

Ar ddiwedd y llwybr, croeswch wal garreg a pharhewch ar y llwybr cul. Croeswch y sticil ar y dde a dilynwch y llwybr rhwng y waliau a heibio i’r bwthyn.

Trowch i’r chwith ar y gwaelod, ac i’r chwith eto arno i’r heol yn ôl i’r arosfan bysys a’r maes parcio.

Garn Fechan

Pellter : 0.75 milltir (1.2 km)
Cyfeirnod map: SM901389
Cludiant cyhoeddus: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a teithio)
Cymeriad: Llwybr garw dros Garn Fechan. Camfeydd cerrig. Graddiant serth.

Cymerwch y llwybr ar draws, maes parcio gyferbyn y ffordd. Dilynwch lwybr troed diffinio’n dda. Garn Fechan yn dir mynediad, felly oni bai bod unrhyw hysbysiadau gyfyngiad yn cael eu rhoi i fyny, mae’n bosibl i grwydro dros y creigiau

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SM897388

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau