Ynys Dinas

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 7.0 milltir (11.3 km) 3 awr 30 munud. Cylched fyrrach o Ben Dinas 3.0 milltir (5.0 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Dinas 412, *Poppit Rocket 405 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, ymyl clogwyni, lonydd, 1 km o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Golygfeydd • clogwyni uchel ym Mhen Dinas.

Taith hudol ar hyd ynys – sydd ddim yn ynys….

Nid ynys yw Ynys Dinas o gwbl, ond penrhyn sydd ar wahan, mewn mannau, o’r tir mawr. Fe’i ffurfiwyd gan yr un dŵr tawdd o’r Oes Iâ a ffurfiodd Gwm Gwaun ymhellach i lawr yr arfordir.

Mae Dinas yn enwog ar arfordir Gorllewin Cymru am ei adar, gyda’r gigfran, y fran goesgoch a’r ysgadan, a’r gwylanod mawr a’r gwylanod bach cefnddu i’w gweld yn y gaeaf.

Yn yr haf, mae gweilch y penwaig, gwylogod, gwylanod y graig a’r fulfran werdd yn bridio ar y clogwyni (mae yna le da i wylio yn edrych allan dros Needle Rock).

I ffwrdd oddi wrth y clogwyni fe allwch weld crec penddu’r eithin a theloriaid. Mae yna olygfeydd anhygoel allan i Draeth Trefdraeth i’r gogledd a thua’r tir i Fynyddoedd y Preseli.

Cwm yr Eglwys

Fel arfer, mae yna sioe o blanhigion ar y clogwyn noeth gydag eithin, rhedyn a mieri, coed prysg y ddraenen wen, y ddraenen ddu a chyll, a choed deri ac onn bach lle mae cysgod rhag y gwynt.

Fe ddewch chi ar draws llawer o flodau gwyllt arfordirol fel grug, clafrllys teim, clustog Fair, bogail y forwyn, bysedd y cŵn, a thegeirianau. Mae clychau’r gog yn blodeuo yn y gwanwyn ar y llethrau dwyreiniol.

Fe welwch chi dystiolaeth o bŵer tywydd Sir Benfro yng Nghwm-yr-Eglwys, dinistriwyd yr eglwys yno yn Storm Fawr 1859.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN005405

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau