Coed Pentre Ifan

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.1 milltir (3.4 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Dim
CYMERIAD: Gweddol wastad, coetir, mwdlyd mewn mannau
CHWILIWCH AM: Torri coed coniffer fel y gall y coetir llydanddail adfywio.

Mae yna ddigon o dystiolaeth o anheddiad dynol ar hyd a lled y dirwedd hon ers adegau o gynhanes, o bosib mor gynnar â’r oesoedd Mesolithig neu Oes Canol y Cerrig.

Ychydig gannoedd o lathenni uwchlaw’r coed saif un o safleoedd hynafol enwocaf Cymru, sef siambr gladdu Neolithig neu Oes Newydd y Cerrig Pentre Ifan.

Heddiw, mae ei benllech anferth yn gorffwys ar gerrig talsyth anferth ond pan adeiladwyd y siambr tua 5,500 o flynyddoedd yn ôl fe fyddai cerrig y siambr wedi eu claddu o dan bentwr anferth o bridd.

Fe gymerodd filoedd o flynyddoedd i dirwedd Cymru ddod dros yr Oes Iâ diwethaf, tua 11,500 o flynyddoedd yn ôl. Gydag amser, estynnodd goedwig diasiad dros y rhan fwyaf o’r ucheldiroedd yng Nghymru, llawer ohonynt wedi eu clirio’n ddiweddarach gan gymunedau dynol.

Mae rhan o’r coed y mae’r llwybr yn pasio trwyddynt wedi goroesi o’r goedwig hynafol hon, gyda deri sy’n gannoedd o flynyddoedd oed.

Chwiliwch am gyfuniad trawiadol o blanhigion y goedwig hynafol. Mae hen goed a brigiadau caregog y goedwig wedi eu gorchuddio gyda bron i 400 rhywogaeth o gen.

Plannwyd rhannau eraill o’r goedwig gyda chonifferau yn ystod y blynyddoedd ar ôl y rhyfel, ond gyda pheth o’r coed collddail hŷn wedi eu gadael yn eu lle.

Mae’r hen goedwig nawr yn cael ei hailgynhyrchu trwy gael gwared ar y coniffer.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN093378

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi