Coed Pengelli

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.2 milltir (3.6 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Dim
CYMERIAD: Coetir derw hynafol, llwybrau wedi’u diffinio’n dda – gall fod yn fwdlyd mewn mannau, tir yn ymdonni, (Gwarchodfa Natur Genedlaethol)
CHWILIWCH AM: Ystlumod • cnocelli’r coed • chwilod • rheolaeth coetir – coedlannu/pentyrrau boncyffion.

Cyfle i weld gwarchodfa natur ac un o’r coetiroedd mwyaf yn yr ardal.

Mae Coed Pengelli yn goetir hynafol, un o’r mwyaf o’i fath i oroesi yng Nghymru. Credir bod rhannau ohono wedi bod yn goed ers diwedd yr Oes Iâ diwethaf – 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Adlewyrchir ei bwysigrwydd fel cynefin yn y ffaith ei fod yn un o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru a’i fod hefyd yn un o warchodfeydd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.

Mae’r coed yn amrywiol iawn gyda deri’n tyfu ochr yn ochr â’r fedwen, onn a gwernen ac, ar lefel is, mae cyll, y ddraenen wen a chelyn yn ffynnu. Ychwanega’r gwyddfid arogl gyfoethog ar noson o haf.

Am ganrifoedd, roedd Pengelli yn goetir weithiol, ac roedd pobl leol yn gofalu amdani fel adnodd pwysig. Yn y 1500au roedd yn eiddo i’r hanesydd George Owen.

Bryd hynny, roedd moch, defaid a gwartheg yn eib ori a’r coed yn cael eu rheoli a’u cynaeafu ar gyfer pren a thanwydd. Mae gan bob un o’r rhywogaethau gwahanol o goed ei werth ei hun.

Defnyddiwyd y wernen wydn i wneud clocsiau; defnyddiwyd derw i wneud golosg a defnyddiwyd y rhisgl i drin lledr, ac roedd pren cyll yn cael ei ddefnyddio fel coed tân.

Mae Coed Pengelli yn gartref i ffwlbartiaid a phathewod. Nod llawer o’r gwaith rheoli a wneir yma yw gwella’r cynefin ar gyfer pathewod.

Mae hefyd yn gartref i lawer o adar coetir, gan gynnwys tylluanod brech a’r gwybedwr brith, ymwelydd yn ystod yr haf sy’n defnyddio blychau nythu hwnt ac yma ar hyd y warchodfa.

Chwiliwch am flodau gwyllt niferus y coed. Yn y gwanwyn mae anemonïau gwyn y coed yn garped o flodau ar lawr y coetir. Yn hwyrach yn y flwyddyn gellir gweld y pili-palaod brithribin porffor a gwyn – chiliwch amdanyn nhw yn uchel yng nghanopi’r goeden ble maen nhw’n dodwyd eu hwyau.

Gwybodaeth gan y BBC

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN123396

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi