Ceibwr/Trewyddel

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 3.8 milltir (6.1 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Poppit Rocket 405 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Gweddol ar lwybrau’r arfordir a thua’r tir, adran serth ym Mhwll-y-wrach, caeau a da byw, 2.1 km o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Plygiadau a ffawtiau dramatig yn y clogwyni, wrth edrych tua’r gogledd o Geibwr • chwythdwll Pwll-y-wrach sydd wedi dymchwel • caer Oes Haearn • gweilch y penwaig • morloi.

Mae’r arfordir gwyllt ac unig o amgylch Ceibwr yn arbennig o garegog a dramatig. Cilfach fechan yw Bae Ceibwr – ychydig mwy na thafliad carreg o led – gyda thraeth o gerrig. Yn aml, gellir gweld morloi llwyd yn agos at y traeth.

Y cildraeth yw’r unig doriad mewn ehangder gwaharddedig o glogwyni o Ben Cemaes i’r gogledd a Threfdraeth i’r de.

Mae eu daeareg yn drawiadol – dros filiynau o flynyddoedd, gwyrdrowyd a phlygwyd y creigiau Ordoficaidd gan symudiadau pwerus y ddaear ac mae dioddefaint y strata’n amlwg i’w gweld.

O’r llwybr uwchlaw Bae Ceibwr mae yna olygfeydd gwych o’r clogwyni patrymog i’r gogledd ym mhentir Pen-yr-afr.

Ychwanegiad eithaf diweddar at y dirwedd yw Ceibwr ei hun. Fe’i cerfiwyd gan ddŵr tawdd o’r Oes Iâ a orlifodd Nant Ceibwr, sydd bellach yn ymestyn allan tros draeth Ceibwr, ynghyd â chwm coediog y nant, Cwm Trewyddel. Mae pentref bach tlws Trewyddel yng nghysgod y cwm.

Mae’r adran sy’n ymestyn ar hyd copa’r clogwyni o Geibwr yn pasio creigiau garw, ogofau a chwythdyllau. Ym Mhwll-y-wrach, mae to un o’r ogofau wedi dymchwel i greu chwythdwll trawiadol. Ar un ochr, mae’r nant yn diflannu i mewn i’r ‘pwll’ hwn, tra ar y llall mae llwybr cul yn ei gysylltu at y môr.

Chwiliwch am y fryngaer Oes Haearn, Castell Treriffith, yn agos at Bwll-y-wrach.

Mae’r clogwyni a’r creigiau unig ar hyd yr arfordir o amgylch Ceibwr yn lle gwych i weld bywyd gwyllt. Cadwch lygad am adar fel gwylanod, gwylanod y graig, y fulfran werdd a’r bilidowcar, ac mae yna siawns dda o weld brain coesgoch hefyd.

Mae’r fran goesgoch yn aelod o deulu’r frân gyda’i phlu du sgleiniog, a’i ei phig hir, crwm a’i choesau yn binc llachar. Maen nhw’n hoff o archwilio’r tywyrch am bryfed a phrin y gwelir hwy ymhell o’r môr.

Mae Geraint Harries, Rheolwr Warden Adran y Gogledd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dweud: “Yn aml, yn gynnar yn yr haf, fe allwch chi weld grwpiau o weilch y penwaig a gwylogod yn hela am bysgod ychydig oddi ar y lan.”

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN113450

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau