Cas-mael

Taith Fer

PELLTER/HYD: 1.7 milltir(2.7 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth 343 Abergwaun, Cas-mael, Hwlffordd (Dydd Gwener yn unig)
CYMERIAD: Caeau a da byw, 0.6 milltir (1.0 km) cerdded isffordd.

Mae’r daith gerdded fechan hon ar gyrion pentre Cas-mael yng ngogledd Sir Benfro. Mae nifer o adeiladau diddorol yn y pentre, gan gynnwys 2 gapel bychan, eglwys, y Drovers Arms, a’r bythynnod rhestredig, Tŷ Newydd a’r White Hart.

Roedd y bardd Cymraeg, Waldo Williams, yn brifathro ar yr ysgol yn ystod yr ail ryfel byd, a cyfansoddodd un o’i gerddi mwyaf adnabyddus ‘Ar Weun Casmael’ am y darn o dir comin sy’n
amgylchynu’r pentre.

Mae cofeb i fardd arall, Evan Rees, bachgen lleol, yn sefyll ar sgwâr y pentre. Wrth ichi ddilyn y daith, byddwch yn croesi’r hen reilffordd rhwng Maenclochog a Rosebush ac Abergwaun.

Adeiladwyd yn y 1890au, roedd yn ddolen gyswllt bwysig i’r cymunedau gwledig hyn yn y dyddiau cyn y car a’r bws. Daeth y gwasanaeth i deithwyr i ben ym 1937, a chauwyd y lein yn derfynol ym 1949.

Mae Mynydd Casfuwch o’ch blaen, ac wrth droed y mynydd hwn mae plwyfi Casfuwch a Morfil. Yn anffodus, ni allodd pentre Casfuwch wrthsefyll ddyfodiad y Normaniaid, a orfododd yr holl deuluoedd a drigai wrth droed y mynydd i symud ymhellach i’r wlad.

Mae’r gair ‘Morfil’ yn hanu o air Lladin a ddefnyddiwyd gan y Normaniaid am bentre marw. Cyn bo hir, byddwch yn pasio hen chwarel lechi.

Agorodd y chwarel  cyn 1840, ac fe’i gweithiwyd efallai hyd at yr ugeinfed ganrif. Yr unig beth sydd ar ôl nawr yw tomen mawr o rwbel.

Mae’r tir ar ddwy ochr y llwybr wrth ichi ddynesu at yr hen reilffordd, er nad yw’n edrych yn arbennig iawn, yn un o’r llefydd prin hynny lle y gallwch weld y fursen ddeheuol.

Rhywogaeth prin iawn ym Mhrydain yw’r fursen ddeheuol, ond mae Sir Benfro yn gadarnle iddi, gyda niferoedd yn dal i ffynnu yma ac ar lethrau gogleddol bryniau’r Preseli.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN008297

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi