Carningli

Teithiau Byr

Carningli 

PELLTER:  1.5 milltir (2.4 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Dim
CYMERIAD: Llwybrau gweundir amlwg, golygfeydd gwych, peth cerdded ar heolydd bach. Dim sticlau na grisiau.  Arwyneb naturiol anwastad, graddiannau.

O’r maes parcio, cerddwch yn ôl i lawr yr heol ac wrth y mynegbost trowch i’r chwith, tuag at gyfeiriad y bys, a cherddwch i fyny llwybr cul.  Wrth y mynegbost, parhewch fwy neu lai yn syth ymlaen.

Ble mae’r llwybr yn fforcio,  cymerwch y naill lwybr neu’r llall (maen nhw’n dod yn ôl at ei gilydd yn nes ymlaen) ac anelwch am y mynegbost yn y pellter.

Wrth y mynegbost, trowch i’r chwith yn siarp i’r llwybr sy’n mynd i fyny’r tyle, i’r chwith o dop y mynydd. Arhoswch ar y llwybr amlwg, gan anwybyddu’r traciau llai i’r ochr (er, tir mynediad yw hwn ac fe allech grwydro fel y mynnwch).

Yn y mannau lle mae’n ymddangos bod y llwybr yn fforcio, cymerwch y llwybr mwyaf o’r ddau lwybr bob tro.

Ar ôl cyrraedd croesfan gyda llwybr yn mynd i lawr tuag at faes parcio, parhewch yn syth ymlaen (saeth felen ar garreg) ar y llwybr, gan aros yn wastad nawr, fwy neu lai.

Ar ôl cyrraedd ffens, trowch i’r chwith i lwybr sy’n mynd i lawr y tyle. Ychydig bach cyn cyrraedd yr heol, trowch i’r chwith wrth y mynegbost ac wrth y postyn marcio llwybr trowch i’r dde yn ôl i lawr i’r maes parcio.

Carningli llethrau Is (fyrrach)

PELLTER:  1.0 milltir (1.6 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Dim

CYMERIAD: Llwybrau gweundir amlwg, golygfeydd gwych, peth cerdded ar heolydd bach. Dim sticlau na grisiau. Arwyneb naturiol anwastad, graddiannau.

O’r maes parcio, cerddwch yn ôl i lawr yr heol ac wrth y mynegbost trowch i’r chwith, i gyfeiriad y bys, a cherddwch i fyny llwybr cul.  Wrth y mynegbost, parhewch fwy neu lai yn syth ymlaen.

Ble mae’r llwybr yn fforcio,  cymerwch y naill lwybr neu’r llall (maen nhw’n dod yn ôl at ei gilydd yn nes ymlaen) ac anelwch am y mynegbost yn y pellter.

Wrth y mynegbost, trowch i’r chwith yn siarp arno i’r llwybr sy’n mynd i fyny’r tyle, i’r chwith o dop y mynydd.  Arhoswch ar y llwybr amlwg, gan anwybyddu’r traciau llai i’r ochr (er, tir mynediad yw hwn ac fe allech grwydro fel y mynnwch).

Yn y mannau ble mae’n ymddangos bod y llwybr yn fforcio, cymerwch y llwybr mwyaf o’r ddau lwybr bob tro.

Wedi cyrraedd croesfan gyda llwybr yn mynd i lawr i faes parcio, trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr amlwg yn ôl i lawr i’r maes parcio.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SN068376

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi