Caeriw/Cei Cresswell

Taith Hanner Dydd+

PELLTER/HYD: 4.9 milltir (7.8km) 2 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Caeriw 360/361, Cei Cresswell 361
CYMERIAD: Graddfa hawdd i ganolig, 1.5 milltir (2.5km) o gerdded ar isffyrdd, caeau a da byw, rhannau’n wlyb ac yn fwdlyd
CHWILIWCH AM: Castell Caeriw, Melin Lanw a phyllau’r felin • golygfeydd o’r afon • yr hen gei •pentrefi prydferth • adar dŵr.

Mae patrwm ceinciog y Daugleddau a’i isafonydd yn ‘foryd’ glasurol, sef cyfres o ddyffrynnoedd afon a ffurfiwyd cyn yr Oes Iâ ddiwethaf ac yna a “foddwyd” wrth i lefelau’r môr godi.

Mae’r llwybr yn rhoi golygfeydd da o ddwy nant y Daugleddau, afonydd llanwol Caeriw a Cresswell. Heddiw, mae’r ddyfrffordd yn dawel ac mae ei fflatiau llaid a’i forfa heli yn gynefin perffaith i adar gwyllt a rhydwyr.

Mae piod y môr a phibyddion coesgoch yn bwydo pan fydd y llanw allan, ac yn aml fe welwch chi grëyr disymud wrth ymyl y dŵr yn aros am yr eiliad iawn i ymosod ar ysglyfaeth.

Ond yn y gorffennol, roedd y Daugleddau yn ganolfan diwydiant, gyda glo a cherrig wedi’u chwarelu yn cael eu llwytho o geiau bach o amgylch y rhwydwaith o ddyfrffyrdd.

Llwythwyd glo a gloddiwyd o byllau ym mhentrefi Reynalton, Loveston a Yerbeston yng Nghei Cresswell.

 

Confluence of Cresswell and Carew Rivers

Yng Nghaeriw defnyddiwyd symudiad y llanw i falu grawn yn y Felin Ffrengig, sy’n sefyll wrth ymyl llyn y felin, sy’n naw hectar (23erw).

Mae yna dystiolaeth bod melin yng Nghaeriw mor gynnar â 1542, ond mae’n debyg bod yr adeilad presennol yn dyddio o’r 19eg ganrif.

Credir bod ei enw yn cyfeirio at y graig Ffrengig a ddefnyddiwyd i wneud meini’r felin.

Cymerodd y Normaniaid reolaeth gyntaf ar Dde Sir Benfro ar ddiwedd yr 11eg ganrif, gan wneud Castell Penfro yn bencadlys iddynt. Fodd bynnag, dewisodd cwnstabl Castell Penfro, Gerald de Windsor, adeiladu castell ei hun yng Nghaeriw.

Fwy na thebyg mai castell pren oedd y castell cyntaf. Cymerwyd ei le yn ddiweddarach gan strwythur o garreg ac ychwanegwyd ato dros y canrifoedd gyda’r datblygiad terfynol yn yr 16eg ganrif.

Yna, ailadeiladodd yr adeiladwyr Elisabethaidd ochr ogleddol y Castell, gan ychwanegu’r ffenestri crand sy’n edrych allan dros Lyn y Felin.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN043051

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi