Caer Abergwaun

Taith Cadair Olwyn

PELLTER: 109 llath (100m)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Abergwaun 412 – mynediad i gadeiriau olwyn, Poppit Rocket (tymhorol) – NID yn hygrych i gadeiriau olwyn
CYMERIAD: Serth mewn mannau; angen cymorth.

O’r maes parcio bach uwchben y Dref Isaf, ar yr heol i Drefdraeth. Mae’r adran gyntaf o lwybr cerrig wedi’i rolio yn ramp serth 1:8 (gyda glaniadau) am 30m.

Ar ôl 70m pellach o lethr hamddenol tuag i lawr mae yna olygfan yn edrych allan dros y Gaer a’r Bae.

Mae’r llwybr yn parhau i’r Gaer heb unrhyw rwystrau wedi eu gosod, ond mae’r llethr tuag i lawr yn serth iawn gydag 1:4 am 60m.

Toiledau yn Sgwâr Abergwaun ac yn Stryd y Gorllewin. Cadair Olwyn 100 metr.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM962375

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau