Bosherston/San Gofan

Taith Hanner Dydd +

Taith sy’n eich tywys chi trwy Warchodfa Natur Pyllau Lili poblogaidd Bosherston.

PELLTER/HYD: 4.4 milltir (7.1 km) 2 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Bosherston 387, Coastal Cruiser
CYMERIAD: Gweddol wastad, 2 km o gerdded ar y ffordd ar lonydd tawel, ymyl clogwyni mewn mannau
CHWILIWCH AM: Clogwyni carreg galch • traethau • pyllau lili (Gwarchodfa Natur Genedlaethol) • brain coesgoch
MWY O WYBODAETH: Mynediad at Benrhyn Sain Gofan yn dibynnu ar amserau tanio. Ffoniwch 01646 662367 am fanylion

Mae Bosherston, ar ochr de-ddwyreiniol penrhyn Castellmartin, wedi dod yn enwog am ei byllau lili. Crëwyd y pyllau gan Ystâd Stackpole yn y 18fed a 19eg ganrif trwy flocio tri dyffryn cul o garreg calch, ac maen nhw nawr yn cael eu cadw fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol.

Mae’r ardal yn enwog am ddyfrgwn, adar y dŵr a lilis dŵr, ac mae gan y Pyllau stociau da o bysgod bras, yn enwedig penhwyaid a gwarchennod, gyda rhufellod, draenogiaid, a llysywod yno hefyd.

Gellir gweld llond lle o adar yma gyda’r cwtiar, iâr ddŵr, alarch mud, crëyr a glas y dorlan yn y gwelyau rhedyn.

Bosherston Lily Ponds viewed from Broad Haven South

Ar yr arfordir, mae’r ogofau, bwâu, cilfachau, chwythdyllau  a staciau yn ganlyniad i’r tonnau yn taro ar y clogwyni carreg galch ac maen nhw’n wych ar gyfer adar y môr gan gynnwys y gigfran, y fulfran werdd, gwenoliaid, piod y môr, jac-y-do ac, wrth gwrs, y fran goesgoch.

Mae’r blodau gwyllt yn doreithiog – mae’r serennyn a lafant y môr yn arbennig o hardd.

Efallai y bydd mynediad at Benrhyn Sain Gofan wedi’i gyfyngu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Gerllaw, mae yna draeth hyfryd a thwyni tywod yn Ne Aberllydan.

Mae Tîm Jones, cyn Barcmon Sector y De gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dweud: “Mae’r daith hon yn eich tywys chi trwy un o’r tair Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn y Parc Cenedlaethol.

Mae’n le gwych i weld dyfrgwn, dw i wedi eu gweld nhw yma sawl gwaith. Am y cyfle gorau i weld un eich hun, ewch yn gynnar – a gadewch eich ci gartref.”

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SR962949

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau