Borough Head

Taith Fer

PELLTER: 2.0 milltir (3.2 km) allan ac yn ôl
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Llwybr arfordirol, taith gymharol hawdd. 1 giât mochyn.

O’r maes parcio trowch i’r chwith i Lwybr yr Arfordir.

Mae’n troi i’r heol am bellter byr, ond chwiliwch am giât mochyn ar y dde i ddod oddi ar yr heol eto.

Mae’r daith hon yn dilyn Llwybr yr Arfordir mor bell â Borough Head (giât mochyn cyntaf) ac yna’n mynd yn ôl yr un ffordd.

Fe allwch chi ddychwelyd ar unrhyw bwynt cyn hyn, gan fod y golygfeydd yn ysblennydd ar hyd y daith gyfan.

Mae yna fainc ychydig dros hanner ffordd i Borough Head – os ydych chi ond yn cerdded tuag at y fainc, mae’r daith yn 1¼ milltir (2 km) i gyd.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM843123

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau