Bedd Morris/Aberfforest

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 6.1 milltir (9.8 km) 3 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Dinas/Trefdraeth 412, *Poppit Rocket 405 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Cymoedd coediog, clogwyni môr, caeau a da byw
CHWILIWCH AM: Carreg Ffin Bedd Morris • golygfeydd gwych o’r arfordir a’r mynyddoedd

Mynyddoedd y Preseli yw’r uchaf yn Sir Benfro, ac maen nhw’n grib cadarn o siâl Ordoficaidd a charreg laid sydd wedi’i gywasgu i ffurfio llechi.

Mewn mannau mae yna ryolit a dolerit, y ‘garreg las’ enwog sy’n ffurfio cylch mewnol Côr y Cewri (Stonehenge). Dolerit smotiog yw’r ‘garreg las’ – mae’n unigryw i ardal Carn Meini.

Mae’r llwybr hwn yn eich tywys i uchder o bron i 300 metr (980tr) ar Barc Mawr, ble mae’r clogwyni tolciog yn eich atgoffa o dyrrau gwenithfaen Dartmoor.

Mae’n ymddangos bod y cornel gogleddol hwn ar gadwyn y Preselau yn codi’n syth allan o’r môr ac mae’r llwybr yn eich tywys yn gyflym rhwng y rhostir agored i’r arfordir.

Mae’r rhan fwyaf o’r rhostir yn dir comin sy’n eiddo i Farwniaeth Cemais ond wedi’i reoli gan bobl gyffredin sy’n pori gwartheg, defaid a merlod arno.

Mae llawer o ucheldir y Preselau’n  gorstir ac mae’r pridd yn asidig, sy’n golygu bod planhigion fel ffynidfwsogl, llysiau’r afu a thegeirianau yn ffynnu yma.

Yw hwyr yn yr haf, mae pinc cynnes y grug yn ychwanegu cyfoeth o liw at y dirwedd

 

Bedd Morris standing stone near Newport, Pembrokeshire

Dyma garreg drawiadol sydd tua dau fetr (chwe throedfedd) o uchder a chredir ei bod yn dyddio o rhwng 2,000-1,500 CC. O bosib, roedd yn farciwr i ddangos cyffordd rhwng dau dracffordd hynafol iawn ar draws Mynyddoedd y Preseli.

Yn llawer mwy diweddar, mae’r garreg wedi dod yn ganolbwynt i straeon lleol. Yn ôl un stori, mae’n marcio bedd lleidr pen ffordd o’r enw Morris, a fu unwaith yn ysglyfaethu ar y rheiny a deithiau ar draws y mynyddoedd.

Yn agos i’r llwybr, mae Cerrig y Gof, cerrig sefyll sy’n olion o siambr gladdu Neolithig rhwng 4,500 a 5,500 oed. Saif y cerrig yn agos at yr A487 ar dir preifat ond mae’r perchennog yn caniatáu mynediad – cofiwch gau’r giât.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN040385

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau