Angle

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 3.7 milltir (6.0 km) 2 awr 30 munud

CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Angle 366, Coastal Cruiser

CYMERIAD: Llwybr Arfordir garw, 1.2 km o gerdded ar y ffordd, gweddol wastad, caeau a da byw

CHWILIWCH AM: Tŵr Angle • Eglwys Canoloesol • Caer Bae’r Capel • patrwm cae stribed Canoloesol creiriol • golygfeydd o ddyfrffordd brysur y Daugleddau.

Mae penrhyn bach Angle yn wyllt ac yn arw, gyda’r hen dywodfaen coch wedi’i droi a’i hindreulio i glystyrau bach gan y gwyntoedd.

Traeth Gorllewin Angle yw dechrau dyfrffordd yr Daugleddau ac felly mae’n cymryd y gwaethaf o’r tywydd. Mae yna byllau creigiau da yma ac mae’r bae yn gartref i’r seren fôr glustog brin.

Ar ochr arall y penrhyn, mae Bae Angle ei hun yn anialwch o fwd a thywod pan fydd y llanw allan ac mae’n le i anifeiliaid di-asgwrn-cefn fridio ac yn gyfoeth o fwyd i ddeifwyr, rhydwyr ac adar gwyllt.

Mae adar fel pibyddion y mawn, cornicyllod a phibyddion coesgoch yn gyffredin gyda phiod y môr a’r gylfinir yn ymweld yn ystod y tymor bwrw plu. Yng Nghors Kilpaison gerllaw, mae Teloriaid Cetti yn y gwelyau rhedyn a’r prysg.

Ar y pentir, gellir gweld olion patrwm hynafol, canoloesol o gae stribed. Mae Caer Bae’r Capel ac Ynys Thorn yn amddiffynfeydd o Oes Fictoria sy’n amddiffyn y ddyfrffordd, ac mae yna olygfeydd gwych dros y Daugleddau yma.

Ond byddwch yn ofalus – mae’r Gaer wedi ei chuddio gan goed a phrysg ac mae yna rai ffosydd dwfn.

Chwarelwyd ambell frigiad o garreg galch ac fe’u proseswyd yn yr odyn galch sy’n edrych allan dros Fae Gorllewin Angle.

Mae Libby Taylor, Rheolwr Gwasanaeth Parcmyn y Parc, wedi gwneud y daith gerdded hon. Mae’n dweud: “Golygfeydd ysblennydd o ddyfrffordd Aberdaugleddau, a phentref godidog, hanesyddol Angle.”

West Angle Bay, Pembrokeshire, Wales, UK

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM865026

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau