Allt Clun

Taith Fer

PELLTER/HYD: 1.1 milltir (1.8 km), 45 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Dim
CYMERIAD: Coetir conwydd a chollddail, llethrau serth
CHWILIWCH AM: Hen lwybrau • mwynglawdd archwiliadol • golygfeydd o fryniau Preseli. Dim sticlau, llwybr anwastad.

O’r maes parcio cymerwch y trac llydan i fyny i mewn i’r goedwig, dilynwch y trac ac anwybyddwch y llwybrau i’r chwith.

Mae’r trac yn troi i’r dde ac yn dringo.  Ble mae’n dod yn wastad, dilynwch y trac i’r chwith a throwch i’r chwith eto wrth y postyn marcio’r llwybr sydd â map a dilynwch y trac llydan i lawr.

Wedi cyrraedd ardal agored, dewiswch y llwybr o’ch blaen i’r chwith o’r goeden dderw (y canol o dri llwybr). Dilynwch y llwybr i lawr a throwch i’r chwith yn siarp ble mae’n wastad (chiliwch am farcwyr llwybr ar y chwith).

Dilynwch y llwybr mwy cul trwy’r coed a, ble mae’r llwybr yn fforcio, cymerwch y llwybr ar yr ochr chwith gan fynd i fyny’r tyle ychydig bach.

(Fe all fod yn anodd gweld y fforc hon.  Os nad ydych wedi ei gweld ac os ydych yn cyrraedd nant, peidiwch â chroesi’r nant, yn lle trowch i’r chwith ac yna i’r dde ar unwaith i fyny’r tyle).

Trowch i’r dde dros bont gerdded wrth bostyn marcio’r llwybr.  Dilynwch lwybr cul, gan fynd i fyny’r tyle yn y pendraw at drac llydan.

Trowch i’r dde wedi cyrraedd y llwybr llydan a’i ddilyn yn ôl i lawr at y maes parcio.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN008343

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau