Aberbach/Pwllcrochan

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.1 milltir (3.4 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a teithio)
CYMERIAD: Taith arfordirol, lonydd gwyrdd, caeau a da byw, gwlyb a mwdlyd mewn mannau, angen croesi nant, 0.3 milltir o gerdded ar isffordd (0.5 km)
CHWILIWCH AM: Bythynnod traddodiadol Sir Benfro • golygfeydd o’r arfordir • blodau gwyllt • morloi

MWY O WYBODAETH: Dargyfeiriad o 2 km (1 km ar isffordd) pan fydd y nant yn gorlifo, 

Ar yr arfordir rhwng Pen-caer a Phenmaen Dewi ceir rhai o’r golygfeydd mwyaf dramatig yn y Parc Cenedlaethol. Mae’n dirwedd sy’n llawn o bentiroedd a baeau, a grëwyd yn ystod y cyfnod Ordoficaidd rhwng 500 a 440 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Bryd hynny roedd llosgfynyddoedd yn weithgar yn yr ardal ac yn poeri lafa allan. Fe oerodd y lafa i ffurfio craig galed danllyd. Dros filiynau o flynyddoedd, mae’r creigiau hyn wedi gwrthsefyll yr erydiad i ddod yn glegyrau caregog fel Garn Fawr, ychydig i’r gogledd o’r llwybr hwn.

Mae pentiroedd arfordirol, fel Penmorfa a Phenbwchdy, hefyd yn nodweddion am fod eu creigiau igneaidd yn sefyll i fyny i’r môr. Mae’r baeau, fel Pwllcrochan, wedi erydu’n gyflymach oherwydd maen nhw wedi eu gwneud o greigiau Ordoficaidd mwy meddal.

Gellir gweld pŵer y môr ar ei orau yn ystod y stormydd niferus sy’n dyrnu’r arfordir. Dywedir mai un storm arbennig o chwyrn, sef storm 1859, a greodd y cloddiau o raean bras yn Aber Bach ac Aber Mawr dros nos. Mewn gwirionedd, ffurfiwyd y cloddiau’n raddol wrth i lefelau’r môr godi ar ddiwedd Oes yr Iâ.

Mae’r clogwyni uwchben Aber Bach a Phwllcrochan yn wledd o liw yn y gwanwyn a’r haf pan fydd y blodau gwyllt a’r eithin yn eu blodau.

Oherwydd y cyfoeth o flodau mae yna doreth o bili-palaod i’w gweld hefyd, gan gynnwys ieir bach araf y graig a’r pili-palaod bach glas.

Wrth i chi gerdded, cymerwch amser i stopio ac edrych yn ofalus tua’r môr oherwydd mae’r arfordir o amgylch Pen-caer yn lle gwych i weld mamaliaid y môr.

Rhai eithaf bach, llwyd yw llamhidyddion ac anaml y byddan nhw’n gwneud mwy na thorri arwyneb y dŵr. Mae’r dolffiniaid trwynbwl sy’n fwy o faint ac yn llwyd golau, yn fwy ystwyth ac weithiau fe fyddan nhw’n neidio’n glir o’r dŵr.

Aber Bach beach, Pembrokeshire Coast National Park, Wales, UK

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyferinod Grid: SM886355

CYMRWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau