Mae gan yr Ystafell Ddarganfod man arddangos ar gyfer gweithiau celf 3D, gan gynnwys cerameg, gemwaith, gwydr a cherflunwaith.

Mae ceisiadau arddangos ar gau ar hyn o bryd. E-bostiwch ni i gael mwy o wybodaeth am arddangosfeydd.

Tai Bach Twt gan Curious Glass

Dydd Gwener 2 Mai i ddydd Sul 22 Mehefin 2025

Mae Jenn Gowney yn gwneud gemwaith gwydr bywiog a gwaith celf wedi’i ysbrydoli gan harddwch arfordir Sir Benfro. Mae ei chasgliad yn cynnwys darnau hwyliog, lliwgar, a hefyd darluniau chwareus o gytiau traeth. Mae Jenn yn ymgorffori broc môr o draethau lleol yn ei gwaith celf, sy’n eich galluogi i fynd â darn o lan môr Sir Benfro adref, wedi’i drwytho â llawenydd ac ysbryd glan y môr.

Image of glass beach huts on a piece of driftwood