Ystafell de yng Nghastell Caeriw yn cynnal sesiynau newydd sy’n ystyriol o’r synhwyrau

Posted On : 18/04/2024

Bydd sesiynau newydd sy’n ystyriol o’r synhwyrau’n cael eu cynnal mewn ystafell de boblogaidd yn y Castell a fydd yn galluogi ymwelwyr sydd ag anghenion ychwanegol i fwynhau amgylchedd croesawgar a chynnes sydd wedi’i deilwra i’w gofynion penodol.

Fel rhan o fenter i ymgysylltu mwy â chynulleidfa fwy amrywiol, bydd Castell Caeriw, sy’n cael ei redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn cynnal Awr Dawel ac Awr Fawr newydd yn Ystafell De Nest ar ail ddydd Llun bob mis.

Bydd yr Awr Dawel, sydd wedi’i chynllunio i ddarparu lle diogel i unrhyw un sy’n teimlo’n bryderus neu wedi’i llethu pan fyddant allan yn gyhoeddus, yn cael ei chynnal rhwng 9am a 10am, cyn i’r Castell agor. Bydd cyn lleied â phosibl o olau llachar a sŵn, a bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau gweithgareddau tawelach mewn amgylchedd ymlaciol.

Mae’r Awr Fawr wedi’i threfnu rhwng 4.30pm a 5.30pm ac mae’n cynnig sesiwn egnïol a difyr, wedi’i theilwra i hyrwyddo symudiad corfforol ac ymgysylltiad cymdeithasol. Y nod yw creu cyfle i unigolion sy’n ffynnu mewn lleoliadau mwy gweithredol gysylltu ag eraill, heb boeni am sŵn gormodol na rhyngweithio cymdeithasol.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw:

“Rydyn ni’n falch iawn o gyflwyno’r sesiynau newydd hyn sy’n ystyriol o’r synhwyrau yng Nghastell Caeriw, fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i fod yn hygyrch a chynhwysol.

“Nod y sesiynau Awr Dawel ac Awr Fawr yw darparu ar gyfer anghenion penodol ein hymwelwyr, gan ddarparu amgylchedd lle gallan nhw fod yn nhw eu hunain go iawn. Yn ogystal â defnyddio cyfleusterau’r caffi, gall ymwelwyr grwydro o gwmpas gardd y Castell. I’r rheini sy’n dymuno crwydro’r Castell, cewch fynediad am ddim gyda Cherdyn Gofalwr. Codir ffioedd mynediad arferol fel arall.”

Nid y Castell, a gafodd ei enwi’n Atyniad Ymwelwyr y Flwyddyn Sir Benfro yng Ngwobrau Croeso y llynedd, yw’r unig safle sy’n cael ei redeg gan Awdurdod y Parc i addasu’r profiad i ymwelwyr er mwyn darparu ar gyfer cynulleidfaoedd mwy amrywiol. Cyflwynwyd Awr Dawel fore Sul ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys yn 2019 i annog pobl na fyddent fel arall wedi ymweld â’r safle i ddod draw i ddysgu mwy am fywydau eu hynafiaid.

I gael mwy o wybodaeth am y sesiynau sy’n ystyriol o’r synhwyrau ac i gynllunio eich ymweliad, cysylltwch â Chastell Caeriw yn uniongyrchol ar 01646 651782 neu ewch i www.castellcaeriw.com. Mae mwy o wybodaeth am Awr Dawel Castell Henllys ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/gwybodaeth-am-gastell-henllys/hygyrchedd/.

Three adults sitting around a table at Nest Tearoom.