Y Parc Cenedlaethol yn llunio cynllun i achub glöyn byw prin rhag diflannu’n llwyr yn Sir Benfro

Cyhoeddwyd : 14/05/2021

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwneud mwy o ymdrech i achub glöyn byw britheg y gors, a oedd unwaith yn gyffredin yng Nghymru ond sydd bellach yn agos at ddiflannu yn Sir Benfro.

Nod y strategaeth newydd ar raddfa’r dirwedd, a ariennir gan Bartneriaeth Natur Sir Benfro, yw gwella dyfodol rhywogaethau prin, sy’n dibynnu ar rwydweithiau o laswelltiroedd corsiog sy’n gyfoeth o flodau ar draws y dirwedd.

Mae llawer o’r cynefin hwn, sy’n gartref i hoff fwyd ei larfa – tamaid y cythraul (succisa pratensis) wedi’i golli oherwydd draeniad, plannu coed amhriodol ac esgeulustod rheoli glaswelltiroedd yn draddodiadol, gydag anifeiliaid trwm, fel gwartheg, yn pori’n ysgafn.

Dywedodd Swyddog Bioamrywiaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Sarah Mellor:

“Mae britheg y gors yn Sir Benfro bellach mewn sefyllfa fregus iawn. Rydym yn credu ei bod eisoes wedi diflannu mewn nifer o ardaloedd yn ei hamrywiaeth flaenorol, ac nid yw wedi cael ei gweld ar Benrhyn Tyddewi ers 2013. Credir bod y boblogaeth o amgylch Keeston a Tiers Cross hefyd wedi diflannu erbyn hyn.

“Mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o greu lle i fywyd gwyllt yn ein tirwedd, er mwyn sicrhau bod natur yn gallu ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n eithaf sobr meddwl y gallai’r rhywogaeth hon ddiflannu o Sir Benfro yn ystod fy oes. Mae gennym gyfrifoldeb i beidio â gadael i hyn ddigwydd ar ein gwyliadwriaeth ni.

“Hyd yn oed yn yr ardaloedd hynny lle mae’n dal i fodoli, rydym wedi gweld dirywiad dramatig, er enghraifft, o gwmpas Mynachlogddu, roedd yn arfer cael ei chofnodi ar 32 safle, ond ers 2015, dim ond mewn saith safle y mae wedi’i gweld.”

Orange and yellow butterfly perching on a flower (Marsh Fritillary)

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol eisoes wedi cymryd camau i achub y glöyn byw prin drwy helpu tirfeddianwyr i gael rheolaeth addas o’u safleoedd drwy gymorth grant a darparu anifeiliaid pori addas, drwy Rwydwaith Pori Sir Benfro a’r Cynllun Gwarchod y Parc.

Bydd y strategaeth newydd yn cynnwys galluogi staff a gwirfoddolwyr Awdurdod y Parc i gynnal arolygon wedi’u targedu mewn safleoedd ledled y sir, yn ogystal â helpu tirfeddianwyr i reoli eu tir mewn ffordd sensitif er mwyn helpu i sicrhau dyfodol y glöyn byw prin hwn.