Y cyfyngiadau Covid-19 diweddaraf yn gorfodi Oriel y Parc i gau ond cynhelir y marchnadoedd awyr agored o hyd

Cyhoeddwyd : 02/12/2020

Bydd Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi yn cau am 3pm ddydd Gwener 4 Rhagfyr yn unol â rheoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru sy'n nodi bod yn rhaid i atyniadau ac orielau ymwelwyr dan do gau.

Er y bydd y Ganolfan Ymwelwyr a’r Oriel yn cau, bydd ‘Marchnadoedd Dros Dro Crefftwyr Lleol’ a drefnwyd yn yr awyr agored yn dal i gael eu cynnal yn ôl y bwriad a bydd y caffi ar y safle yn parhau ar agor.

Meddai James Parkin, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cefn Gwlad, Cymunedol ac Ymwelwyr Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Mae’r tîm yn Oriel y Parc wedi gweithio’n eithriadol o galed mewn amgylchiadau heriol i ddatblygu amrywiaeth o ddigwyddiadau gyda mesurau diogelu rhag Covid i helpu i gefnogi busnesau lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig.

“Yn anffodus, mae’r cyfyngiadau diweddaraf yn golygu ei bod yn amhosibl cadw’r ganolfan ar agor ond rydym yn dal yn bwriadu cefnogi masnachwyr lleol drwy’r Marchnadoedd Dros Dro yn yr awyr agored yn ystod mis Rhagfyr.

“Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi ymweld ag Oriel y Parc eleni, gan gynnwys aelodau o’r gymuned leol ac ymwelwyr â’r ardal, a byddwn yn adolygu’r sefyllfa unwaith y bydd y canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn cael eu diweddaru.

“I gael cyngor ar sut y gallwch fwynhau Arfordir Sir Benfro dros gyfnod yr ŵyl, ewch i wefan y Parc Cenedlaethol.”

Aerial image of Oriel y Parc Gallery and Visitor Centre, St Davids, Pembrokeshire Coast National Park, Wales, UK

Mae Oriel y Parc yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn cael ei rheoli ganddo, gan weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

I gael manylion diweddaraf holl ddigwyddiadau Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu cynnal yn Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch coronafeirws gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ewch i www.arfordirpenfro.cymru/coronafeirws.