Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru yn galw am barhad mewn amynedd wrth ofni penwythnos Gŵyl y Banc prysur

Cyhoeddwyd : 22/05/2020

Mae tri Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru wedi diolch i’r cyhoedd am gadw at ganllawiau’r llywodraeth dros yr wythnosau diwethaf, ac maent yn galw ar bobl i barhau i fod yn amyneddgar ac i aros adref i aros yn ddiogel.

Tra bod Cymru’n parhau i fod wedi llwyrgloi, mae pryderon yn cynyddu y bydd pobl yn anwybyddu rheoliadau Llywodraeth Cymru ac yn ceisio cael mynediad i ardaloedd poblogaidd y Parciau Cenedlaethol dros benwythnos Gŵyl y Banc, gan roi cymunedau gwledig bregus y Parciau mewn mwy o berygl.

Mae Awdurdodau’r Parciau am atgoffa holl drigolion y DU bod Cymru yn parhau i fod wedi llwyrgloi, ac mai dim ond teithiau hanfodol a ganiateir yma, ac felly ni all pobl yrru er mwyn ymweld ag unrhyw un o Barciau Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Rydym wedi gweld bod negeseuon clir Llywodraeth Cymru yn cyrraedd llawr gwlad, a bod pobl ar y cyfan yn aros adref er mwyn aros yn ddiogel, a dim ond yn mynd allan i ymarfer o’u stepen drws, er y bu rhai eithriadau i hynny.”

“Mae Parciau Cenedlaethol yn ddibynnol ar ein heconomïau twristiaeth, ond yn ystod yr amseroedd digynsail yma rydym yn dweud wrth bobl am aros adref er mwyn aros yn ddiogel, ac i ymweld yn nes ymlaen. Os nad ydynt yn gwneud hynny, yna mae gwir bryder y bydd mwy o bwysau ar ein gwasanaethau iechyd ac na fydd mesurau ymbellhau cymdeithasol yn cael ei dilyn.”

Path closure sign at Caerfai

Yn y cyfamser, meddai’r Cynghorydd Gareth Ratcliffe, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy’n cynrychioli ardal sy’n ffinio â Lloegr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae’r gwahaniaeth rhwng y rheoliadau yn Lloegr a Chymru wedi peri heriau yn lleol. Mae ein cymunedau yn gweithio’n galed er mwyn gofalu am ei gilydd ac rydym yn ddiolchgar i bawb sy’n cadw at reolau Cymru ac yn diogelu ein cymunedau gwledig bregus.”

Meddai Mr. Owain Wyn, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Rydym yn deall bod pobl yn methu Parciau Cenedlaethol Cymru ac efallai’n cael eu temtio i ddod yma, ond gofynnwn i chi beidio. Mae’n gyfnod argyfyngus i’n cymunedau a’n gwasanaethau iechyd yma yng ngogledd Cymru gan mai dim ond yn awr yr ydym yn cyrraedd y brig mewn achosion o Covid-19. Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl pan fydd yn ddiogel, yn ddiogel i chi ac yn ddiogel i’n cymunedau”.

Dan reoliadau Llywodraeth Cymru, mae Parciau Cenedlaethol Cymru wedi cau nifer o safleoedd, yn cynnwys Llwybr yr Arfordir ym Mhenfro, Yr Wyddfa yn Eryri a Phen Y Fan ym Mannau Brycheiniog. Mae’r safleoedd hyn ac eraill wedi eu cau gan y’u hystyrir fel rhai sy’n codi’r perygl o ran trosgludo firws Covid-19.

Mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn annog pobl i barhau i barchu’r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ac i aros adref, aros yn ddiogel a gwarchod y GIG.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch yr ardaloedd sydd wedi cau yn ogystal â newidiadau i wasanaethau’r Parciau Cenedlaethol yma:

Eryri: www.eryri.llyw.cymru/coronavirus

Bannau Brycheiniog: www.beacons-npa.gov.uk

Arfordir Penfro: www.arfordirpenfro.cymru