Tirweddau dynodedig yn gweithio gyda’i gilydd, yn cyflawni dros Gymru

Posted On : 18/10/2021

Mae Partneriaeth newydd o'r tirweddau dynodedig yng Nghymru yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â’r heriau allweddol sy’n gyffredin iddynt, gan gynnwys gweithredu ar yr argyfwng newid hinsawdd a’r argyfwng natur.

Mae’r Bartneriaeth – Tirweddau Cymru Landscape Wales – yn cynnwys:

  • y pump Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru:
    • Ynys Môn;
    • Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy;
    • Llŷn;
    • Gŵyr; a
    • Dyffryn Gwy
  • ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru:
    • Bannau Brycheiniog;
    • Arfordir Penfro; ac
    • Eryri

 

Mae Tirweddau Cymru yn hyrwyddo ffordd mwy strwythuredig o weithio ar hyd a lled Cymru ac yn cydlynu’r gwaith o gyflawni cronfa gyfalaf Llywodraeth Cymru – sef y rhaglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy, sydd eisoes wedi dyrannu £8 miliwn a mwy i gefnogi mwy na 90 o brosiectau ar hyd a lled Tirweddau Dynodedig Cymru.

Mae gan y tirweddau dynodedig rôl hanfodol o ran cymryd camau gweithredu ar yr argyfwng newid hinsawdd a’r argyfwng natur. Yn dilyn y Senedd yn gwneud datganiad ar yr argyfwng natur, a chyn y gynhadledd COP 26 eleni, mae tirweddau dynodedig wedi ymrwymo i weithio gyda’i gilydd i gyflawni ar y datganiad hwn.

Mewn seminar ar-lein ar 19 Hydref, bydd y Partneriaid yn cyflwyno eu gwaith o bob rhan o Gymru, sy’n cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae’r gronfa Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy yn cefnogi prosiectau sy’n gweithio ar ddatgarboneiddio, adfer natur, twristiaeth gynaliadwy a phrosiectau sy’n cefnogi adferiad gwyrdd ar ôl Covid yn ogystal â chefnogi prosiectau cydweithredol ar raddfa fwy ar draws sawl tirwedd.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Mae Tirweddau Dynodedig Cymru, y staff a’r aelodau ym mhob sefydliad, yn rhan annatod o gyflawni gwelliannau ar raddfa fawr o ran cadwraeth yr ecosystem a’r cynefinoedd. Maent i raddau helaeth yn rhan o’r ateb i’r argyfwng hinsawdd.

“Drwy weithio gyda’n gilydd, mae Tirweddau Cymru a Llywodraeth Cymru yn gallu adeiladu ar arferion da ac ymdrechu tuag at gryfhau’r ymdeimlad o berthyn i’n tir a’n dyfroedd.

“Rwy’n falch o weld bod seminar gyntaf Tirweddau Cymru yn mynd rhagddi, a hyderaf y byddwch i gyd yn cael sesiwn gynhyrchiol.”

Dywedodd Chris Lindley, Cadeirydd Tirweddau Cymru Landscapes Wales:

“Mae tirweddau dynodedig Cymru yn cymryd camau gweithredu ar yr argyfyngau hinsawdd a natur. Rydym yn gweithio i leihau ein hôl troed carbon ac i gefnogi ein cymunedau i wneud yr un peth. Rydym yn gwarchod 25% o dirwedd Cymru ac felly mae gennym rôl hanfodol o ran helpu natur i adfer.

“Mae ein tirweddau dynodedig yn dirwedd i bawb eu hymchwilio a’u mwynhau. Estynnwyd croeso i’r nifer uchaf erioed o bobl yn ystod y pandemig, sy’n dangos pa mor bwysig yw’r tirweddau i bawb. Rydym yn gweithio i gynnal ein cymunedau a’n busnesau, gan helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau’r tirweddau gwerthfawr hyn heddiw ac yn y dyfodol.”