Tîm Cyfathrebu Awdurdod y Parc yn y ras am bum gwobr

Cyhoeddwyd : 06/08/2021

Mae Tîm Cyfathrebu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer pum gwobr yng Ngwobrau PRide Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus Cymru.

Mae ymateb Awdurdod y Parc mewn argyfwng wrth ddelio ag effaith pandemig y Coronafeirws wedi cael ei gydnabod mewn tri chategori: Ymgyrch Sector Cyhoeddus, Ymgyrch Cyllideb Isel, ac Ymgyrch Ranbarthol y Flwyddyn.

Mae papur newydd blynyddol yr Awdurdod i ymwelwyr, Coast to Coast, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer categori y Cyhoeddiad Gorau, ar ôl ennill y wobr yn 2014.

Mae’r Tîm Cyfathrebu hefyd yn cystadlu am Wobr y Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus Mewnol Rhagorol. Llwyddodd yr Awdurdod ennill y wobr honno hefyd yn 2014.

Footprints in the sand going towards the sea

Dywedodd Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Marie Edwards:

“Mae cael eich rhoi ar y rhestr fer, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol blaenllaw ym maes cysylltiadau cyhoeddus ledled y wlad, yn brawf o’r gwaith caled mae’r tîm wedi’i wneud dros y 12 mis diwethaf a thu hwnt i ddatblygu a chyflawni’r Cynllun Adfer Cyfathrebu drwy Covid-19.

“Mae’r tîm wedi adeiladu ar lwyddiant ei ymgyrch yn 2020 eleni ac mae’n parhau i ymgysylltu â phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt i hyrwyddo’r Parc Cenedlaethol fel cyrchfan ddiogel ond sensitif i ymwelwyr, gan annog parch gan bawb i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r hyn i’w ddisgwyl a’r hyn a ddisgwylir ganddynt.”

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tegryn Jones:

“Mae’r Awdurdod yn falch iawn bod y Tîm Cyfathrebu wedi cyrraedd y rhestr fer unwaith eto, a hynny ar ôl i’w waith gael ei gydnabod yn ddiweddar yng Ngwobrau Rhagoriaeth CIPR y DU.

“Mae’r tîm wedi defnyddio amryw o ymgyrchoedd traddodiadol a chreadigol i sicrhau canlyniadau gwych a lledaenu’r negeseuon #Troedio’nYsgafn; hyd yn oed dan yr amodau heriol a ddaeth yn sgil y pandemig byd-eang.”

Bydd enillwyr Gwobrau PRide CIPR Cymru Wales yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni rithiol ar 5 Hydref. I weld y rhestr lawn, ewch i wefan y CIPR.