Seren deledu o Ddinbych-y-pysgod yn ysgrifennu cerdd i helpu i hyrwyddo neges Troedio’n Ysgafn y Parc Cenedlaethol

Cyhoeddwyd : 28/05/2021

Mae’r actor uchel ei barch o Gymru, Charles Dale, wedi camu i’r adwy i gefnogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro drwy ofyn i’r rheini sy’n ymweld â’r sir droedio’n ysgafn a pheidio â gadael eu hôl yr haf hwn.

Mae Charles Dale yn enwog am ei ymddangosiadau ar gyfresi teledu fel Casualty, Coronation Street, Unforgotten a Pembrokeshire Murders ac fe gafodd ei alw’n ‘llenor y cyfyngiadau clo’ yn 2020 am ei sylwebaeth liwgar a barddonol ar bopeth o bandemig y Coronafeirws i ddigwyddiadau yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae ei waith diweddaraf, a gynhyrchwyd ar gyfer yr Awdurdod, yn cyfuno cerdd ddiweddaraf yr actor a thirlun trawiadol Arfordir Sir Benfro mewn apêl i bawb ‘droedio’n ysgafn’ wrth archwilio’r Parc Cenedlaethol yr haf hwn.

middle aged white man with goatee beard standing on a harbour wall above a sandy beach

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc, Tegryn Jones:

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd dawn dweud arbennig Charles yn helpu i annog mwy o bobl i gynllunio ymlaen llaw a meddwl sut gallan nhw wneud y gorau o’u hymweliad, gan wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n cael effaith negyddol ar y Parc, ei fywyd gwyllt na phobl eraill.

“Fel un sy’n byw yn Ninbych-y-pysgod, mae gan Charles ddealltwriaeth lawn o faterion fel ymddygiad gwrthgymdeithasol a gorlenwi sydd wedi codi wrth i’r cyfyngiadau symud lacio, felly rydyn ni wrth ein boddau ei fod wedi bod yn barod i ddefnyddio ei sgiliau ysgrifennu ac actio i gefnogi ein hymgyrch er mwyn gwneud profiad pawb o Arfordir Sir Benfro yn un cadarnhaol.”

Ychwanegodd Charles:

“Rydw i wedi bod yn ffodus iawn o fod wedi teithio i bob cwr o’r byd yn fy ngyrfa, ond does unman gwell i ddod adref iddo na Sir Benfro. Gobeithio y bydd fy ngherdd yn atgoffa pobl i’n helpu i’w gadw felly.”

Gallwch weld y fideo isod, ewch i sianeli Facebook, Twitter a YouTube yr Awdurdod neu ewch i’n dudalen Troedio’n Ysgafn.