Rhyddhau’r tennyn yn ystod Diwrnod Allan i Gŵn Castell Caeriw

Posted On : 05/07/2023

Y mis yma, bydd Castell Caeriw yn croesawu cŵn a’u perchnogion o bob cwr o’r wlad i ymuno â’r hwyl a’r cyffro yn ystod y Diwrnod Allan i Gŵn.

Mae’r digwyddiad, a noddir gan Burns Pet Nutrition, yn un o uchafbwyntiau’r calendr yn atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, lle mae croeso i gŵn drwy gydol y flwyddyn.

Bydd y Diwrnod Allan i Gŵn yn cynnwys amrywiaeth o stondinau gyda danteithion i gŵn a phobl. Bydd y cŵn yn gallu profi eu galluoedd ar y cwrs rhwystrau, tra bydd eu perchnogion yn gallu mwynhau’r ‘llwybr tebyg at ei debyg’ o amgylch Llyn y Felin a’i brydferthwch. Prif nodwedd y diwrnod fydd y sioe gŵn, rhad ac am ddim, lle bydd digon o gategorïau i ganiatáu i bob ci a’i berchennog ddisgleirio – gan gynnwys y categori ‘Trafodwr Iau Gorau’ neu ‘Edrych debycaf i’w berchennog’.

Dywedodd Rheolwr Castell Caeriw, Daisy Hughes: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ein gwesteion pedair coes i’r digwyddiad poblogaidd hwn, ac rydyn ni’n arbennig o falch o weithio gyda Burns, cwmni o Gymru sy’n darparu bwyd anifeiliaid anwes naturiol o ansawdd, a fydd yn darparu gwobrau ar gyfer pob categori, gan gynnwys ‘Y Gorau yn y Sioe’.

“Bydd Ystafell De Nest hefyd ar agor rhwng 10.30am a 4pm, ac yn gwerthu amrywiaeth blasus o ddanteithion i bobl – ac i gŵn!”

Bydd y Diwrnod Allan i Gŵn yng Nghaeriw yn cael ei gynnal rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf. Codir tâl mynediad arferol ar gyfer y Castell a thâl bychan ychwanegol am rai gweithgareddau.

I gael rhagor o wybodaeth am hyn a digwyddiadau eraill yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, yn ogystal ag amseroedd agor a phrisiau mynediad, ffoniwch 01646 651782 neu ewch i www.castellcaeriw.com.

Four small dogs running on grass