Rhowch eich barn i helpu rhagor o bobl i fwynhau’r Parc Cenedlaethol a gallech chi ennill £50

Cyhoeddwyd : 15/12/2020

Mae angen eich help chi ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i siapio prosiect newydd sy’n ceisio sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad i’r Parc Cenedlaethol a’i fwynhau.

Os ydych chi’n byw yma neu’n ymweld, mae ar y prosiect Profiadau i Bawb eisiau clywed gennych chi. Yn ogystal â helpu i roi cychwyn ar y prosiect, bydd cynnig eich barn hefyd yn rhoi cyfle i chi ennill £50.

Dywedodd Arweinydd Tîm Darganfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Graham Peake:

“Mae’r Parc Cenedlaethol yno i bawb ei fwynhau ond mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w wneud yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl.

“Nod y prosiect Profiadau i Bawb yw deall pam nad yw rhai pobl, gan gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, yn gallu defnyddio’r hyn sydd gan y Parc Cenedlaethol ac Awdurdod y Parc i’w gynnig a’r rhesymau pam mae rhai’n dewis peidio.

“Bydd yr arolwg hwn yn ein helpu i ddysgu mwy am y rhwystrau mae pobl yn eu hwynebu, lle mae angen gwneud newidiadau a faint o gynnydd sy’n cael ei wneud wrth i’r prosiect fynd rhagddo.”

A group of 3 people including a wheelchair user on a country road

Mae’r prosiect Profiadau i Bawb wedi cael ei gomisiynu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn cael ei ddarparu gan Dilys Burrell gyda chefnogaeth Responsible Tourism Matters.

Sut i ddweud eich dweud