Rhaglen cadwraeth arfordirol lwyddiannus yn ysbrydoliaeth i asiantaethau eraill yng Nghymru

Posted On : 21/09/2022

Daeth grŵp o reolwyr arfordirol o bob rhan o Gymru at ei gilydd ym Mhen-caer yn ddiweddar i ddysgu mwy am ymdrechion cadwraeth natur ar lethrau arfordirol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a sut maen nhw wedi bod o fudd i boblogaeth y frân goesgoch leol a bywyd gwyllt arall.

Trefnwyd y digwyddiad fel rhan o brosiect Dawnsio ar y Dibyn, sy’n ceisio hyrwyddo arferion gorau o ran rheoli cyrion yr arfordir yn gynaliadwy ledled Cymru. Roedd amrywiol sefydliadau yn bresennol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, RPSB a Phartneriaethau Natur Lleol, gyda chyfranogwyr yn cynrychioli polisi ac ymarfer.

Un o’r prif bynciau trafod oedd y rhaglenni cadwraeth ymarferol a gynhaliwyd ar lethrau arfordirol Sir Benfro, y credir eu bod wedi bod yn allweddol o ran cefnogi poblogaeth y frân goesgoch yn y Parc Cenedlaethol.

Dywedodd Jack Slattery, Swyddog Cadwraeth RSPB Eryri, Pen Llŷn ac Ynys Môn: “Mae Sir Benfro yn gartref i chwarter y brain coesgoch sy’n bridio yng Nghymru. Dengys dadansoddiad diweddar fod poblogaeth y frân goesgoch yn fwy sefydlog yn Sir Benfro nag yn unman arall yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru. Mae’n bwysig ein bod yn ceisio deall y rhesymau dros y gwahaniaethau hyn a gweld a oes unrhyw wersi y gallwn eu dysgu gan sefydliadau sy’n ymwneud â gwarchod llethrau arfordirol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.”

Dywedodd Sarah Mellor, Ecolegydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, sy’n helpu i gydlynu’r arolwg blynyddol: “Mae rhaglen gwyliadwriaeth flynyddol y frân goesgoch wedi bod ar waith yn y Parc Cenedlaethol ers 1996, ac mae hyn yn dangos gwerth ymrwymo i gasglu’r setiau data hirdymor hyn. Rydyn ni mor ddiolchgar i bawb sy’n rhoi o’u hamser i’n helpu ni gyda’r dasg hon.”

Mae’r brain coesgoch, sy’n enwog am eu harddangosfeydd disglair ar ben y clogwyn, yn dibynnu ar laswelltiroedd byrrach mwy agored a rhostiroedd arfordirol, lle mae’n bwydo ar amrywiaeth o fwyd pryfed. Un o’r heriau allweddol i’r rhywogaeth hon yw nad yw’r tir garw’n cael ei bori ar y llethrau a’r clogwyni arfordirol, gan nad yw bridiau mwy modern o dda byw yn addas ar gyfer y dasg.

Roedd y Swyddog Cadwraeth, Julie Garlick, wrth law i ddangos y gwaith a wnaed ar reoli prysgwydd arfordirol a phori arfordirol. Dywedodd: “Dros y 25 mlynedd diwethaf, cafwyd ymdrech ar y cyd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru (neu Gyngor Cefn Gwlad Cymru ar y pryd) a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i fynd i’r afael â phroblemau gadael tir ar yr arfordir. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae rhannau helaeth o’r arfordir wedi dod yn ôl i reolaeth draddodiadol.

“Mae’r llwyddiant wedi dod yn sgil yr ymdrech gyson drwy gydol y cyfnod hwn, yn ogystal â chyfraniad Awdurdod y Parc Cenedlaethol a phartneriaid eraill sydd wedi ariannu’r gwaith parhaus hwn. Rydyn ni nawr yn gweld y manteision o gael poblogaeth fwy cadarn o frain coesgoch.”

Dros y blynyddoedd, mae tirfeddianwyr o amgylch yr arfordir wedi cael cymorth i reoli’r prysgwydd ar lethrau arfordirol ac i ail-sefydlu pori arfordirol – naill ai gyda’u stoc eu hunain, neu gyda merlod yn cael eu darparu drwy Gynllun Anifeiliaid Pori Sir Benfro. Mae grantiau wedi helpu rheolwyr i adfer ffensys a darparu cafnau dŵr i helpu gyda’r dasg.

Ychwanegodd Julie: “Mae rheoli cynefinoedd ar gyfer brain coesgoch hefyd yn helpu amrywiaeth o rywogaethau eraill, fel blodau gwyllt a gloÿnnod byw ar hyd y Llwybr Cenedlaethol, yn ogystal â helpu gyda’r gwaith rheoli – gan fod angen llai o dorri ar unedau sy’n cael eu pori. Mae pawb ar eu hennill.”

Mae Dawnsio ar y Dibyn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys Cyngor Gwynedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, RSPB, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyngor Ceredigion fel partneriaid. Bydd y prosiect, a fydd yn cael ei ddarparu dros gyfnod o ddwy flynedd, yn canolbwyntio ar ddatblygu cysylltiadau rhwng prosiectau, cynlluniau a gweithgorau sy’n bodoli eisoes er mwyn lleihau dyblygu ymdrechion, gan arddangos arferion gorau sy’n cynnig gwerth da am arian.

 

Gellir gweld adroddiad yr Awdurdod ar 15 mlynedd o Gadwraeth y Parc yn https://www.arfordirpenfro.cymru/gwarchodaeth/gwarchod-y-parc/.

A black, red-beaked chough standing in grassland.