Pwyllgor Awdurdod y Parc yn mynd ar daith o amgylch prosiectau lleihau carbon llwyddiannus

Cyhoeddwyd : 30/07/2021

Aeth aelodau o Bwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy (SDF) Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar daith yn ddiweddar o amgylch prosiectau lleol sydd wedi elwa o gyllid SDF.

Ers 2000, mae dros 200 o brosiectau wedi cael eu cefnogi gan y Gronfa. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Gronfa wedi newid ei ffocws i gefnogi prosiectau a arweinir gan y gymuned sy’n lliniaru’r argyfwng hinsawdd drwy gyfrannu at leihau carbon.

Roedd Coleg Coppicewood, sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi rheoli coetiroedd yn gynaliadwy, yn un o’r ymgeiswyr llwyddiannus yr ymwelodd Aelodau’r Pwyllgor ag ef. Ar ôl cynnal trafodaethau gydag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a sicrhau cartref newydd yng Nghoedwig Pengelli ar brydles 25 mlynedd, gwnaed cais am gyllid SDF i adeiladu gweithdy gan ddefnyddio dulliau adeiladu cynaliadwy. Bydd y Coleg a’r Ymddiriedolaeth Natur yn elwa o’r bartneriaeth newydd hon, gan fod gan y Coleg bellach gartref newydd sbon mewn coetir SODdGA mawreddog, a bydd yr Ymddiriedolaeth yn gallu cael rhaglen o reoli coetiroedd wedi’i theilwra i anghenion bywyd gwyllt lleol.

Bu Aelodau’r Pwyllgor SDF hefyd yn ymweld â Fferm Ofal Clynfyw, lle defnyddiwyd cyllid i dalu am offer, costau sefydlu a hyfforddi mewn prosiect compostio mwydod newydd. Mae hyn yn creu compost cynaliadwy o ansawdd uchel, y gellir ei ddefnyddio i wella amodau pridd yn organig ar gyfer tyfwyr cynnyrch llysiau lleol, wrth storio carbon yn ystod y broses.

Roedd neuadd bentref Bwlch-y-groes hefyd yn rhan o’r amserlen ar gyfer Aelodau, a welodd lle bydd y paneli ffotofoltäig a’r pwynt gwefru cerbydau trydan a ariannwyd gan yr SDF, sydd i fod i gyd-fynd â’r adeilad newydd, yn cael eu lleoli.

Daeth y daith i ben gyda sgwrs gan Brosiect Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian, sydd wedi cael hwb ariannol SDF i helpu gyda Rhaglen Effeithlonrwydd Ynni Sir Benfro – prosiect sy’n ceisio ymgysylltu â chymunedau ledled Gogledd Sir Benfro er mwyn deall ymddygiad o ran lleihau ynni.

6 adults standing on grass in the wooded area with sawn logs behind them

Dywedodd Swyddog Cyllido a Grantiau Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Jessica Morgan:

“Mae wedi bod yn werth chweil gweld cymaint o atebion arloesol i’r hinsawdd yn dwyn ffrwyth o ganlyniad i grantiau’r SDF.

“Rydym yn awr yn gwahodd ceisiadau ar gyfer y rownd nesaf o gyllid. Os ydych chi’n rhan o grŵp neu fudiad sy’n cael ei arwain gan y gymuned sydd wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro neu o’i gwmpas, ac sydd â phrosiect a fyddai’n helpu i leihau carbon a/neu ymateb i newid yn yr hinsawdd, ystyriwch wneud cais.”

Gall y prosiectau gynnwys:

  • Gosod cyfleusterau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, fel paneli solar, i adeilad cymunedol
  • Cynlluniau trafnidiaeth sy’n hyrwyddo allyriadau carbon is
  • Gosod cyfleusterau cymunedol sy’n lleihau gwastraff, fel ffynhonnau dŵr
  • Unrhyw gynlluniau eraill i leihau carbon yn y gymuned.

Y dyddiad cau i geisiadau yw hanner dydd, dydd Gwener 10 Medi.

Ewch i’n dudalen CDC i gael rhagor o wybodaeth am sut mae gwneud cais a ffurflen gais.