Prosiect rhywogaethau estron goresgynnol yn ymestyn i chwe safle newydd diolch i hwb ariannol

Cyhoeddwyd : 07/09/2023

Mae prosiect Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy'n ceisio gwaredu a rheoli lledaeniad rhywogaethau estron goresgynnol ar dir o amgylch afonydd wedi cael cyllid yn ddiweddar i ymestyn ei waith i chwe lleoliad arall.

Mae’r prosiect Pwyth mewn Pryd wedi bod yn targedu rhywogaethau estron goresgynnol fel Jac y Neidiwr chwarennog yn nalgylch Cwm Gwaun ers 2015, ac ers hynny mae wedi ehangu i gynnwys dalgylchoedd Clydach a Phorthgain.

Ar ôl dangos bod modd rheoli Jac y Neidiwr ar raddfa fawr yn y lleoliadau hyn, mae’r prosiect wedi cael dros £170,000 gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Cronfa Dreftadaeth y Loteri, gan ymestyn y prosiect tan 2025 o leiaf.

Dywedodd Matthew Tebbutt, Cydlynydd y Prosiect a fydd yn arwain ac yn cydlynu gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a chontractwyr, staff a thirfeddianwyr:

“Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi sicrhau’r cyllid hwn i ymestyn effaith y prosiect i fwy o ardaloedd yn Sir Benfro.

“Bydd y prosiect yn ceisio ymestyn a chyfnerthu rheolaeth Jac y Neidiwr yn yr ardaloedd a ddewiswyd, yn ogystal â rheoli Clymog Japan lle bo hynny’n ymarferol.”

Yn ogystal â darparu’r glasbrint ar gyfer camau nesaf y prosiect, mae’r gwaith a gwblhawyd fel rhan o’r prosiect ers 2015 wedi galluogi Awdurdod y Parc Cenedlaethol i greu pecyn cymorth i rannu’r dull seiliedig ar ddalgylch ar gyfer rheoli Jac y Neidiwr a’r gwersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd.

Y chwe ardal warchodedig a fydd yn rhan o gam newydd y prosiect yw: SoDdGA Cors Castell Martin (dalgylch Cors Castell Martin), SoDdGA Dyfrffordd Aberdaugleddau (Coedwig Holyland a Phwll Melin Penfro), SoDdGA Aberarth Carreg Wylan (Ceibiwr, Trewyddel), Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) y Preseli ac ACA Afonydd Cleddau (Afon Wern), ACA y Preseli ac ACA Coetiroedd Gogledd Sir Benfro (Afon Nyfer – blaenddwr Crymych a Blaenffos, ac is-ddalgylch Brynberian) ac ACA Tir Comin Gogledd Orllewin Sir Benfro ac ACA Tyddewi (Afon Alun Tyddewi).

Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen y prosiect Pwyth mewn Pryd.