Prosiect i fapio dinas leiaf y DU newydd ddechrau

Cyhoeddwyd : 08/10/2021

Mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn prosiect cyffrous newydd yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, lle mae map newydd ar y gweill i helpu arwain ymwelwyr o amgylch dinas leiaf y DU.

Bydd safle Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnal gweithdy celf cydweithredol yn ddiweddarach y mis hwn, lle bydd y rheini sydd â gwybodaeth leol yn cael cyfle i rannu eu barn â dylunwyr ynghylch beth maen nhw’n meddwl sy’n bwysig am Dyddewi, a helpu i benderfynu beth ddylid ei gynnwys ar y map.

Dywedodd Claire Bates, Rheolwr Gwasanaethau i Ymwelwyr yn Oriel y Parc:

“Gallai syniadau gynnwys hoff ddarn o bensaernïaeth, hoff le tawel neu’r lleoliadau gorau ar gyfer gwylio bywyd gwyllt lleol. Mae gan y dylunwyr ddiddordeb hefyd mewn chwedlau a mythau lleol, ac unrhyw straeon hynod a rhyfeddol sy’n gysylltiedig â’r ddinas hanesyddol hon.

“Y cyfan rydyn ni’n ei ofyn gan y rheini sy’n bresennol ydy eu bod nhw’n dod â’u gwybodaeth leol, eu straeon a’u cariad at ein dinas fach.”

Cynhelir y gweithdy rhyngweithiol yn Oriel y Parc ddydd Sadwrn 23 Hydref rhwng 2pm a 4pm, ac mae croeso i bawb.

Mae’n hanfodol archebu lle ymlaen llaw ar gyfer y gweithdy hwn, a gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod i’r gweithdy sicrhau eu lle drwy fynd i’n calendr digwyddiadau.