Problemau technoleg gwybodaeth yn achosi oedi ym mhroses cynllunio’r Parc Cenedlaethol

Cyhoeddwyd : 03/11/2020

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi dweud y gallai fod oedi yn ei broses ceisiadau cynllunio o ganlyniad i broblemau gyda’r gronfa ddata dechnegol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynllunio a Chyfeiriad y Parc, Nicola Gandy: “Mae’r Awdurdod wedi cael problem TG gyda’i gronfa ddata ar gyfer ceisiadau cynllunio yn yr wythnosau diwethaf, ac yn sgil hyn nid yw’r Awdurdod wedi gallu cofrestru ceisiadau cynllunio.

“Yn anffodus, mae hyn wedi arwain at oedi o ran ystyried a phenderfynu ar geisiadau cynllunio, ymholiadau cyn gwneud cais ac ymchwiliadau gorfodi. Mae’n wirioneddol ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra mae hyn wedi’i achosi.

“Mae swyddogion yn gwneud eu gorau glas i ddatrys y problemau hyn a gobeithio y bydd y gwasanaeth yn ei ôl yn fuan. Ond, yn y cyfamser, efallai y bydd yn rhaid i’r Awdurdod ofyn am estyniad amser i benderfynu ar geisiadau, yn enwedig y ceisiadau cymhleth neu’r ceisiadau dadleuol lle bydd angen rhagor o ymgynghori.”

Mae’r Awdurdod a darparwr y gronfa ddata ar gyfer ceisiadau cynllunio wedi bod yn gweithio’n galed yn y cefndir, a gobeithio y caiff y problemau hyn eu datrys gynted ag y bo modd.