Pencadlys Awdurdod y Parc i ailagor i’r cyhoedd

Cyhoeddwyd : 01/09/2020

Bydd pencadlys Parc Llanion Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ailagor i aelodau’r cyhoedd ar sail apwyntiadau yn unig ddydd Mercher 2 Medi.

Mae’r swyddfa wedi cau i ymwelwyr ers cyflwyno cyfyngiadau’r coronafeirws ym mis Mawrth.

O fis Medi ymlaen, fel rhan o waith ailagor yn raddol, bydd aelodau o’r cyhoedd yn gallu trefnu apwyntiadau ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 9am a 4pm.

Bydd llinellau ffôn ar agor bob dydd rhwng 9am a 5pm.

O 1 Medi 2020 a hyd nes y rhoddir gwybodaeth bellach, ni fyddwn yn gallu cynnig cyngor cynllunio dros y ffôn na drwy’r e-bost, ac ni chynhelir cymorthfeydd cynllunio am y tro. Gwneir hyn i alluogi swyddogion i glirio’r ceisiadau cynllunio a cheisiadau cyn ymgeisio sydd eisoes wedi dod i law.

Bydd apwyntiadau ar gael, fodd bynnag, i weld dogfennau cynllunio. Mae pob cais cynllunio ers Ebrill 2019 ar gael i’w weld ar ein gwefan trwy’r dudalen Chwilio Ceisiadau Cynllunio, dylech edrych ar geisiadau ar ein gwefan lle bo hynny’n bosibl.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc:

“Ar ôl cyfnod mor hir o gyfyngiadau symud, rydyn ni’n gwerthfawrogi y bydd aelodau o’r cyhoedd a rhanddeiliaid yn awyddus i ailafael mewn rhyw fath o normalrwydd. Fodd bynnag, mae’n hanfodol ein bod yn cael y cydbwysedd cywir rhwng bodloni’r galw hwnnw a sicrhau bod y broses ailagor gymhleth yn cael ei chyflawni’n ddiogel ac yn unol â’r heriau niferus sy’n deillio o’r argyfwng iechyd unigryw hwn.

“Lle bo modd, byddwn yn dod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau ar sail yr hyn sydd wedi cael ei ddysgu o’r cyfyngiadau symud, sydd wedi gweld symudiad hynod lwyddianus tuag at weithio ystwyth, a chydweithredu agosach nag erioed rhwng Awdurdod y Parc, Cyngor Sir Benfro, yn ogystal ag asiantaethau eraill sy’n gysylltiedig â thwristiaeth a’r awyr agored, a’r cymunedau eu hunain.”

The Pembrokeshire Coast National Park Authority's Llanion Park headquarters.

Fel mesur diogelwch ychwanegol, bydd gofyn i’r rheini sy’n defnyddio’r adeilad lanhau eu dwylo wrth fynd i mewn ac allan. Dylai unrhyw un sydd â symptomau Coronafeirws, neu’r rhai y gofynnwyd iddynt hunanynysu, ymatal rhag trefnu apwyntiadau neu geisio ymweld â phencadlys Parc Llanion nes bydd eu cyfnod cwarantin wedi dod i ben.

Mae modd trefnu apwyntiadau i ymweld â phencadlys yr Awdurdod ym Mharc Llanion drwy ffonio 01646 624800 neu drwy anfon e-bost at gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk.